Chwilio yn ol llais

Mae astudiaethau yn dangos bod problemau teithio yn gallu fod yn rhwystr nodweddiadol i gynhwysiad cymdeithasol, ac mewn tro, cyflogaeth. Rydyn ni eisiau gwneud yn siwr nad yw hyn yn rhwystr i’r bobl ifanc sy’n gweithio gyda ni ar Engage to Change. Efallai bydd pobl gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth angen y cymorth o hyfforddiant teithio fel ffordd o oresgyn diffyg sgiliau neu hyder wrth ymgymryd â’r daith i’r gwaith ac yn ôl o’r gwaith.

Beth yw hyfforddiant teithio?

Mae hyfforddiant teithio yn yn cwmpasu ystod eang o gymorth a darparwyd i unrhywun un sydd ei hangen. Mae hi’n gyfres o brosesau wedi’i anelu at wneud yn siwr bid unigolyn yn medru gwneud taith yn annibynnol ac mewn modd diogel.

Efallai y bydd angen addysgu sgiliau newydd, fel:
• Darllen amserlen
• Cadw’n ddiogel
• Dweud yr amser
• Ymddygiad priodol
• Sgiliau ariannol

Hyfforddwyr teithio

Mae hyfforddwyr swydd o ELITE ac Agoriad yn hyfforddi’r pobl ifanc y maen yn gweithio gyda fel rhan o Engage to Change. Rhaid ei bod nhw’n cyfathrebwyr ardderchog gyda’r gallu i ddeall anghenion eraill, yn enwedig anghenion poblogaethau bregus. Fe fydd sgiliau ac anhawsterau teithio’r hyfforddeion yn cael ei asesu yn y cyfnod proffilio galwedigaethol. Mae hyn yn ein galluogi ni i adeiladu rhaglen hyfforddiant o gwmpas sylfaen sefydledig, wedi’u teilwra i bob unigolyn. Gall y rhaglen hyn gynnwys diogelwch yr heol, diogelwch personol, sgiliau ariannol, sgiliau amser, sgiliau cyfathrebu, ac yn y blaen, yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn.

Cyfnodau

Fe fydd teithio ar y cyd yn ffurfio’r prif rhan o’r hyfforddiant teithio. Yn y dechrau fe fydd yr hyfforddwr swydd yn ymuno â’r hyfforddai ar y daith o’r dechrau i’r diwedd. Fe fydd ailadrodd yn galluogi’r hyfforddai i ddysgu’r daith ac i adeiladu ei hyder. Fe fydd y nifer o ailadroddiadau yn hollol dibynadwy ar yr unigolyn a’i cynnydd nhw cyn gall y cam cysgodi ddechrau a gall yr hyfforddwr swydd tynnu’n ôl yn raddol. Mae’r broses cilio yn digwydd mewn camau, gydag asesiadau parhaus ym mhob cam. Efallai y cam cyntaf fydd i gerdded ar bellter ddiogel y to ôl i’r hyfforddai, efallai yr ail fydd i gyfarfod â’r hyfforddai wrth y gorsaf bws, ac yn y blaen. Y cam olaf yw pan all yr hyfforddai gwblhau’r daith ar ei ben ei hun mewn modd diogel.