Chwilio yn ol llais

Yng ngeiriau rhieni a gofalwyr, darllenwch am effaith Engage to Change ar deuluoedd ar draws Cymru.

“Ar ran Owen, fy hun, a’i tad, roedden ni eisiau mynegi’n ysgrifenedig i chi a’ch tîm pa mor ddiolchgar yr ydyn i chi am eich holl ymdrechion i ffeindio cyflogaeth i Owen.

Mae e’n mynd i fewn i wythnos pedwar nawr yn y gwaith ac yn mwynhau’n llwyr, mae’r holl broses o’r dechrau wedi bod yn well na gallwn ni fyth wedi dychmygu.

Yr ymweliadau cartref rhagarweiniol, ei helpu i gynhyrchu CV, darganfod ei diddordebau, ei cryfderau a’i wendidau, mynd gydag ef i’w cyfweliad, ac wrth gwrs y cymorth parhaus y mae’n derbyn yn y gweithle.

Mae wir wedi cael effaith bositif ar Owen (a dim ond wythnos 4 yw hi). Mae yn barod wedi rhoi hynod o hwb i’w hyder ac wedi dangos iddo ei fod yn gallu ennill cyflogaeth gyda’r help mae chi a’ch tîm yn darparu.

O safbwynt rhiant ni allaf fynegi pa mor ddiolchgar yr ydyn ni eich bod chi’n gweld y potensial sydd ganddo ac y bydd y gwasanaeth ardderchog yr ydych chi’n darparu yn ei helpu fe i gyflawni cyflogaeth ystyrlon yn y dyfodol. Rydw i ond yn gobeithio bod eich gwaith yn parhau i helpu gymaint o oedolion ifanc arall yn y dyfodol.

Diolch o galon, Jayne”

– Jayne, mam Owen mewn neges i ELITE

“I fi fel rhiant mae defnyddio Agoriad wedi helpu ni i gymryd i cam i gael Mari mewn i’r gwaith. Roedd hi wir yn anodd i wybod sut i siarad i gyflogwyr, beth yn union i ddweud wrthyn nhw, ac i wybod sut fydd Mari yn delio gyda sefyllfa gwaith heb rhyw fath o gymorth yn y gweithle ar y dechrau. Felly mae Agoriad wedi rhoi cymorth allweddol a heddwch meddwl i ni fel rhieni hefyd.

Ers i Mari ddechrau yn y caffi, rwy’n gweld hi’n defnyddio mwy o sgiliau gartref…Mae hi wedi bod yn hapusach yn ei hun fel person, mwy hyderus, ac yn defnyddio sgiliau mae hi wedi dysgu yn y gweithle yn y cartref.

Mae’r cyfathrebu rhwng y bobl sy’n gweithio ar Engage to Change yn bwysig iawn, y mwy mae’n nhw’n siarad i ni y mwy mae nhw’n dod i adnabod Mari fel person ac yn adnabod ei anghenion hi. Maen nhw’n barod i wrando ar ein barn hefyd am sut mae hi’n dod ymlaen, oherwydd mae hi’n barod i symud i’r cam nesaf a dysgu mwy o sgiliau ac mae Agoriad yn ymateb i hyn yn syth oherwydd mae yna lot siarad rhyngdda i a’r bobl sy’n gweithio ar y prosiect. Maen nhw’n barod i wrando, sy’n allweddol.”

Ruth, mam Mari

Ar gwblhad lleoliad gwaith fy mab Callum Russell hoffwn ddiolch yn ddiffuant Bev a Gill a wnaeth rhoi gymorth iddo trwy gydol ei amser yn y gwaith. Gall swydd newydd i’r rhan fwyaf ohonom fod yn anodd ond ar gyfer rhywun fel Callum gall fod bron yn amhosib heb llawer iawn o fewnbwn. Rhoddwyd i Callum cymorth cyflawn a rhoddodd iddo yr hyder i gyflawni’r cymwyseddau sydd eu hangen mewn amgylchedd gwaith arferol. Mae’r milltiroedd ychwanegol a roddwyd wedi sicrhau bod ganddo’r gwaith papur angenrheidiol fel CV a cyfeiriadau i symud ymlaen. Diolch o galon unwaith eto.

– Wendy, mam Callum, mewn neges diolch i ELITE

“Mae hi wedi bod yn dda i Elen i fod yn y gwaith ac i gael cymorth…Mae ei hyder wedi dod ymlaen, mae hi wedi bod yn help mawr iddi hi bod Bethan a Zoe [Agoriad] yn mynd i mewn i’r gwaith i ddangos i Elen rheolau’r gweithle, a sut i ymddwyn yn y gwaith gydag awtistiaeth. Mae wedi helpu hi i wneud ffrindiau newydd hefyd.”

Delyth, mam Elen

“Mae’r gwasanaeth a ddarparwyd ar gyfer fy mab wedi bod yn uwch a thu hwnt i unrhywbeth yr ydym wedi’i brofi o’r blaen. Gwelir hyn o fewn y manylion bach. Mae cael swydd yn anodd fel y mae, ond trwy’r profiad yma mae Owen wedi derbyn hyfforddiant swydd, cymorth trwy cyfweliadau ac anogaeth yn y gweithle. Rhan gorau’r proses yw’r ffordd y mae Elite wedi gallu cydbwyso trin pobl fel Owen fel oedolion unigol tra dal yn cynnal perthynas gyda rhieni/gofalwyr yr unigolion yma.

Fel teulu y llawenydd mwyaf yw hi i wylio hunan-barch Owen dyfu trwy ei profiadau newydd tra’n gwybod ei fod mewn amgylchedd diogel gyda chymorth. Yn anad ddim, mae hi’n rhyfeddol i wybod bod gan Owen nawr well siawns at gael cyflogaeth yn y dyfodol ac i’w weld yn cael ei dderbyn yn yr hyn byddem yn ei alw’r ‘byd go iawn’ ac yn cyfrannu at y gymdeithas.” 

– Jayne, mam Owen