Chwilio yn ol llais
Beth yw’r prosiect Engage to Change?

Mae prosiect Engage to Change yn gweithio ledled Cymru i gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed sydd ag anhawster dysgu, anabledd dysgu a/neu awtistiaeth i gyflawni eu potensial llawn.

Gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, mae Engage to Change yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc, eu rhieni/gofalwyr a chyflogwyr i wneud y canlynol:

  • goresgyn rhwystrau i gyflogaeth
  • datblygu sgiliau trosglwyddadwy
  • cynnig profiad gwaith â thâl
  • cynnig cyflogaeth â thâl ac â chymorth
  • dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli
  • cynnig mynediad i interniaethau â chymorth.
Pwy sy’n ariannu’r prosiect Engage to Change?

Caiff y prosiect ei ariannu gan y Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru.

Pwy sy’n cymryd rhan yng nghyflwyniad y prosiect?

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn arwain consortiwm o fudiadau i gyflwyno’r prosiect Engage to Change.  Mae hyn yn cynnwys yr asiantaethau cyflogaeth gyda chefnogaeth ELITE ac Agoriad Cyf, y grwp hunan-eriolaeth Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, a’r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r prosiect hefyd yn gweithio mewn cydweithrediad â rhaglen interniaeth DFN Project SEARCH.