Chwilio yn ol llais

Rydyn ni’n credu’n gryf yn y pwysigrwydd o roi cymorth a grymuso cyflogwyr i gyflogi mwy o bobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth. Trwy’r prosiect yma fe fyddwn ni’n gweithio gyda cyflogwyr i osod disgwyliadau realistig, cyfateb y person cywir i bob swydd, a darparu hyfforddiant, cyngor a chymorth i chi a’ch staff.

Cyfateb swyddi

Fe fydd pobl ifanc yn mynd trwy proses trylwyr o cyn-sgrinio a proffilio galwedigaethol i alluogi ni i ddod i’w hadnabod nhw a’i cryfderau, gwendidau a sgiliau er mwyn ei cyfateb gyda swydd addas. Mae hyn yn meddwl byddwch chi fel cyflogwyr yn gallu cael mynediad i gronfa talent o unigolion rydych yn gwybod bydd wedi’i siwtio’n dda i’r rolau rydych chi’n edrych am.

Hyfforddiant

Rydyn ni’n gallu darparu hyfforddiant pwrpasol am ddim ar amrywiaeth o bynciau ynglyn a anabledd a cyflogaeth i sefydliadau a staff sy’n cymryd rhan yn y prosiect. Pe bai hi’n hyfforddiant Ymwybyddiaeth o awtistiaeth neu hyfforddiant cyfredol ar deddfwriaeth cydraddoldeb, gallwn addasu cyrsiau i’ch anghenion penodol. Am fwy ar hyfforddiant ewch yma.

Cyngor a chymorth parhaus

Fe fydd ein hyfforddwyr swydd arbenigol yn darparu cymorth i chi a’ch gweithiwr sydd wedi’i canolbwyntio ar yr unigolyn trwy dilyn ein model o gyflogaeth gyda chymorth. Fe fydd hyfforddwyr swydd yn hyfforddi’r unigolyn tan gallent wneud y swydd yn annibynol, ac fe fydd y hyfforddwr yn tynnu’n ol yn raddol gan ddibynnu ar berfformiad a chynnydd yr unigolyn, mewn ymgynghoriad â chi a’ch gweithiwr. Fe fydd cynnydd yn cael ei fonitro a’i asesu yn barhaus, ac rydyn ni yna i ail-ymuno â’r weithle neu cynorthwyo gyda unrhyw ail-hyfforddi os ydy hi’n ofynnol.