Chwilio yn ol llais
Llongyfarchiadau i’r interniaid yn ein tri safle Engage to Change: DFN Project SEARCH ledled Cymru wrth iddynt raddio’n llwyddiannus o’r rhaglen!

Yn ddiweddar, fe wnaeth pob Dosbarth 2019 ym Mangor, Pen-y-Bont a Caerdydd mynychu seremoni i ddathlu cwblhau’r rhaglen y cychwynnwyd arni gyntaf fis Medi diwethaf. Clywsom gan yr interniaid eu hunain, yn ogystal â’r rhai sy’n adnabod nhw orau neu wedi dod i adnabod nhw trwy’r profiad yma – rhieni/gofalwyr, mentoriaid, hyfforddwyr swydd a tiwtoriaid. Roedd y seremonïau yn sicr yn emosiynol, wrth i siaradwyr a mynychwyr adlewyrchu gyda’u gilydd ar y raddau y mae interniaid wedi gwneud cynnydd o ran eu hyder, eu hannibyniaeth a’u sgiliau. Mae eu cynnydd yn dyst i’w gwaith caled eu hunain ac i gefnogaeth y prosiect a’r rhai o’u cwmpas yn eu galluogi i weithio tuag at gyflawni eu potensial. Gwelwch drosoch eich hun yn ein straeon fideo: