Chwilio yn ol llais

Mae’r prosiect Engage to Change wedi cyflwyno ymateb i ymgynghroiad Llywodraeth Cymru Bil Ddrafft Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (PDF, Cymraeg).

Yn ein hymateb rydym wedi pwysleisio’r angen i wneud hygyrchedd anabledd yn rhan annatod o amodau gwaith teg. Tra ein bod yn croesawu safle cryf yr undebau llafur yn y Mesur yma, rydym yn annog Llywodraeth Cymru hefyd i sicrhau bod pobl anabl yn benodol yn cael eu cynnwys mewn gwaith partneriaeth cymdeithasol.

Rydym hefyd yn pwysleisio’r angen i sicrhau bod canlyniadau cydraddoldebau yn cael eu mesur a bod atebolrwydd gan arweinyddion. Rydym angen symudiad diwylliannol yn ogystal â newidiadau pendant i sicrhau bod gan bobl gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth yr un cyfleoedd â phawb arall.

Mae’r ymateb llawn i’r ymgynghoriad ar gael yma: Drafft Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (PDF, Saesneg yn unig). Os hoffech yr ymateb mewn fformat gwahanol neu yn Gymraeg, e-bostiwch grace.krause@ldw.org.uk