Chwilio yn ol llais

Mae lles pobl ifanc ar brosiect Engage to Change yn bwysig i ni.  Mae partneriaid darparu’r prosiect yn cynnig cefnogaeth lles mewn sawl ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gwrdd ag anghenion y cyfranogwyr.

Mae ELITE Supported Employment wedi penodi tri Hyrwyddwr Iechyd Meddwl all gynnig cefnogaeth gyfrinachol i staff a chyfranogwyr ill dau.  Hefyd maen nhw wedi datblygu Pecyn Cymorth Lles a Gweithlyfr i helpu pobl ifanc i adnabod a dilyn eu teimladau, dod dros meddyliau negyddol a rheoli pryder.  Mae’r gweithlyfr yn cynnwys y canlynol:

  • Sgiliau lles: Adnabod eich sgiliau lles a phethau rydych chi wedi eu gwneud yn y gorffennol, neu’n dal i’w gwneud, i gadw’n dda. Hefyd gall hyn gynnwys pethau rydych chi’n eu gwneud eisoes neu allwch chi eu gwneud i helpu eich hunan i deimlo’n well pan rydych chi’n teimlo’n sâl.  Gall sgiliau lles hefyd fod yn rhywbeth sydd yn eich gwneud chi’n hapus, gwneud i chi wenu neu ymlacio.  Mae’n symud ymlaen wedyn i adnabod pethau sydd yn gwneud i chi deimlo’n hapus neu’n drist a’r hyn y gallwch chi ei wneud i wneud i chi deimlo’n dda eto.
  • Adnabod a rheoli teimladau: Sut maen nhw’n gwneud i chi deimlo a thraciwr emosiwn i adnabod yr hyn a aeth o’i le y diwrnod hwnnw i wneud i chi deimlo’n sâl. Hefyd mae adran sydd yn trafod ac adnabod meddyliau diwerth, lle i logio newidiadau hwyliau a’r hyn y buoch chi’n ei wneud ar y pryd.
  • Amnewid Meddwl yn Bositif: rhowch 20 munud o’r neilltu ac ysgrifennu cymaint o feddyliau negyddol ag sy’n dod i’ch meddwl. Ar ôl i chi orffen, cymerwch yr amser i herio pob meddwl negyddol trwy ddod o hyd i un positif.
  • Datganiadau Cadarnhaol: Yr hyn all eich helpu i herio a ddod dros feddyliau negyddol. Pan rydych chi’n eu hailadrodd yn aml a chredu ynddyn nhw, gallwch chi gychwyn ar wneud newidiadau positif.
  • Rheoli Pryder: Adnabod arwyddion pryder ac ymarferion syml i arafu anadlu ac ymlacio.
  • Adnoddau: rhestr o apiau defnyddiol a chysylltiadau ar gyfer gwasanaethau cefnogaeth.

Gallwch chi lawrlwytho’r Gweithlyfr Lles yma (Saesneg yn unig).

Hefyd gallwch chi lawrlwytho llyfryn hawdd ei ddarllen am Becyn Cymorth Lles ELITE a pha gefnogaeth sydd ar gael yma (Saesneg yn unig).