Chwilio yn ol llais

Darparwyd Engage to Change gan consortiwm o bump partner, pob un gyda rôl hanfodol a nodedig i chwarae. Darganfyddwch mwy am rôl pob partner isod.

Anabledd Dysgu Cymru

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn elusen genedlaethol yn cynrychioli’r sector anabledd dysgu yng Nghymru. Mae popeth a wnawn yn canolbwyntio ar greu Cymru sydd yn gwerthfawrogi ac yn cynnwys pob plentyn, person ifanc ac oedolyn ag anabledd dysgu.

Rydym eisiau i bob person ag anabledd dysgu fyw mor annibynnol â phosibl mewn lle o’u dewis nhw, a chael rheolaeth dros eu bywydau.

Credwn y gall pobl ag anabledd dysgu gyflawni hyn os oes ganddyn nhw, eu teuluoedd a’r bobl sydd yn eu cefnogi fynediad i’r wybodaeth, cyngor, hyfforddiant a chefnogaeth gorau.

Rydym yn chwarae rôl unigryw mewn gwneud i hyn ddigwydd – trwy ein gwasanaethau ein hunain, gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff eraill a dylanwadu ar bolisi.

ELITE Supported Employment

Sefydlwyd ELITE ym Morgannwg Ganolog yn ystod 1994 i helpu oedolion ag anableddau dysgu i gael mynediad i gyflogaeth cyflogedig yn eu hardal a chynnal y gyflogaeth honno. Dros amser, mae hyn wedi ehangu i ddiwallu anghenion y rhai sydd dan anfantais.

Rheolir yr asiantaeth ar hyn o bryd gan Bwyllgor Rheoli sydd yn cynnwys unigolion o Gyrff Gwirfoddol, Cyflogwyr Lleol, Annibynwyr a Rhieni. Ein gweledigaeth ydy galluogi profiadau galwedigaethol ac/neu gyfleoedd cyflogaeth cyflogedig i bobl ag anableddau neu’r rhai dan anfantais o bob oedran. Ein cenhadaeth ydy galluogi unigolion ag anableddau neu’r rhai dan anfantais i gael mynediad, cael a chynnal cyflogaeth cyflogedig trwy gyfrwng cefnogaeth briodol.

Agoriad Cyf

Sefydlwyd Agoriad Cyf yn 1992 gyda’r amcanion o ddatblygu’r posibiliadau cyflogaeth i bobl anabl a than anfantais. Ers hynny mae nifer fawr o’n cleientiaid wedi elwa o’u profiad gydag Agoriad ac yn  gyfranwyr ffyddlon ac effeithiol i’w cyflogwyr. Rydym wedi esblygu fel darparydd arbenigol o wasanaethau recriwtio, cyflogaeth a hyfforddiant. Mae ein timau yn chwilio am y cyfleoedd gorau ac yn cydweddu’r rhain gyda hyfforddiant priodol wrth inni weithio gyda’n ffrindiau busnes i sicrhau pontio llyfn i waith i’n cleientiaid.

Mae Agoriad yn darparu gwasanaethau ledled Cymru. Mae’r Swyddfeydd Rhanbarthol ym Mhwllheli, Dolgellau a Chaergybi yn cefnogi Swyddfa Gorfforaethol Bangor.

Fel darparydd gwasanaeth cyfeillgar ac anymwthiol, rydym wedi profi y gallwn i gyd wneud gwahaniaeth i ansawdd bywyd ein cleientiaid a helpu busnesau lleol trwy ein gwasanaethau recriwtio i ddarganfod y person cywir ar gyfer y swydd gywir.

Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan

Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn gwmni sy’n cael ei arwain gan aelodau ac yn Llais Unedig Grwpiau Hunan Eiriolaeth a’r holl Bobl ag Anableddau Dysgu yng Nghymru. Mae’n rhannu gwybodaeth i gyflawni hawliau cyfartal a delwedd gadarnhaol. Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn …

  • casglu newyddion a barn pobl
  • rhannu gwybodaeth
  • darganfod beth sy’n digwydd o amgylch y wlad
  • darganfod beth sy’n bwysig ym mywydau pobl
  • ymgyrchu i wella bywydau pobl ag anableddau dysgu
  • rhoi pobl ledled Cymru mewn cysylltiad gyda’i gilydd
  • helpu i sefydlu a chynnal grwpiau hunan eiriolaeth.

Prifysgol Caerdydd

Fel partner ymgynghori a gwerthuso fe fydd Prifysgol Caerdydd yn sicrhau bod yr holl ddata angenrheidiol i ddibenion adrodd ac i ddylanwadu ar newid polisi yn cael ei gasglu’n foesegol ac yn effeithiol. Fe fyddan nhw’n cynhyrchu adroddiadau mewn perthynas â’r hinsawdd polisi cyfredol ac yn sicrhau bod gwaddol y prosiect yn mynd ymhell y tu hwnt i ddisgwyliadau.