Chwilio yn ol llais

Am y rhai sy’n gymwys, gall Engage to Change rhoi cymorth i’ch plentyn i gyrraedd ei potensial llawn trwy darparu cymorth cyn-gyflogaeth a hyfforddiant swydd arbenigol.

Mae’r broses yn dechrau gyda eich datganiad o ddiddordeb yn y prosiect, pan rydych chi/eich plentyn yn cysylltu‘n gyntaf gyda ein partneriaid darpariaeth ELITE neu Agoriad. Fe fyddwn ni’n cydnabyddu eich datganiad o ddiddordeb o fewn 48 awr. Fe fyddwn ni yna yn trefnu sgwrs cyn-atgyfeirio o fewn 10 diwrnod i wirio os ydy’r person ifanc yn gymwys am y prosiect neu na. Os na, fe fyddwn ni’n eich arwyddbostio i ddarpariaeth arall priodol. Os ie, fe fyddwn ni’n trefnu’r ymweliad cartref/cymuned cyntaf gyda’r person ifanc a’i rhwydwaith gymorth o fewn 28 diwrnod.

Mae’r ymweliad cychwynnol yma wedi ei nabod fel y cyfarfod atgyfeirio ac yn y cyfarfod yma fe fyddwn ni’n cyfarfod a chi am y tro cyntaf i gael sgwrs a casglu gwybodaeth rhagarweiniol am y person ifanc a’i profiad, sgiliau ac anghenion. Yn dilyn y cyfarfod yma fe fydd eich person ifanc yn cael ei ychwanegu i’r rhestr darpariaeth gwasanaeth ac fe fydd ail ymweliad cartref/cymuned yn cael ei drefnu.

Fe fydd yr ail cyfarfod yma yn asesiad mwy manwl yr ydyn yn galw’n proffilio galwedigaethol. Fe fyddwn ni’n gofyn am arferion, hobiau, teithio, a blaenoriaethau cyflogaeth. Fe fyddwn ni’n mynd trwy rhestr o swyddi i ganfod hoff a chas bethau y person ifanc.

Fe fydd hyn yn cael ei ddilyn gan asesiad o sgiliau yn cynnwys darllen, ysgrifennu, rhifau, deheurwydd, defnydd o gyfrifiaduron, defnyddio arian, a dweud yr amser, yn ogystal a dealltwriaeth o rheolau’r weithle a rhedeg trwy senarios gall ddigwydd yn y gweithle. Mae’n bosib gall y broses proffilio galwedigaethol ymestyn i drydydd cyfarfod. Unwaith mae hi wedi cwblhau, gall gweithgareddau datblygu a cymorth cyn-gyflogaeth ddechrau, yn cynnwys elfennau er enghraifft ysgrifennu CV a sgiliau cyfweliad. Gallwch weld llif y proses atgyfeirio yma.