Chwilio yn ol llais

Pan mae person ifanc yn dechrau gweithio, yn enwedig os eu swydd cyntaf yw hi, mae llawer o rhieni a gofalwyr yn teimlo’n pryderus ar eu rhan ac eisiau gwybod popeth sy’n mynd ymlaen – mae hynny’n iawn ac yn hollol cyffredin, ond gall llawer o gwestiynau oroesi person ifanc gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth.

I annog atebion sy’n rhoi mewnwelediad mewn i’w diwrnod yn y gwaith, gofynnwch cwestiynau agored sydd ddim yn gofyn am ateb ‘ie’ ne ‘na’.

 

Yn hytrach na gofyn…

 

Dywedwch….
“A wnaethoch chi gael diwrnod da?”  

“Beth wnaethoch chi yn y gwaith heddiw?”

 

 

“Ydych chi’n mwynhau’r swydd?”

 

“Dywedwch wrthyf am rywbeth cyffrous / doniol a ddigwyddodd yn y gwaith heddiw.”
 

“Ydy’r bobl yn neis?”

 

“Sut wnaeth pobl helpu chi yn y gwaith heddiw?”
 

“Oeddech chi’n mynd i unrhyw le ar gyfer cinio?”

 

“Sut wnaethoch chi dreulio’ch egwyl cinio?”
 

“Oeddech chi’n nerfus?”

 

“Beth helpodd chi i setlo mewn?”
 

“Ydy eich rheolwr yn neis?”

 

“Sut fyddech chi’n disgrifio’ch rheolwr?”
 

“Ydych chi’n edrych ymlaen at yfory?”

 

“Beth ydych chi’n gyffrous am yfory?”

Mae’n bosib gall person ifanc gyrraedd adref a teimlo fel mae angen arnynt rhywfaint o le, neu ddim eisiau siarad am eu diwrnod yn syth. Am lawer o rhieni a gofalwyr, gall hyn fod yn bryder oherwydd efallai y bydd yn ymddangos nad yw’r person ifanc wedi mwynhau eu diwrnod yn y gwaith.

Mae’n syniad da i beidio eu orlwytho nhw gyda cwestiynau – gall yr amgylchedd gwaith dod â profiadau synhwyraidd newydd sy’n llethol, felly gadewch bach o le i’r person ifanc i ymlacio. Os ydych chi mewn gwirionedd yn poeni bod y person ifanc yn teimlo’n bryderus am ddychwelyd i’r gwaith, ac mae rhaid i chi wybod beth sy’n mynd ymlaen, gallwch chi ddweud pethau fel:

“Mae’n gyffredin i deimlo bach yn bryderus yn ystod eich dyddiau cyntaf yn y gwaith. Oes yna unrhywbeth allai wneud i helpu?”

“Nid wyt ti fel dy hun. Allwch chi ddweud wrthai beth ddigwyddod i wneud i chi deimlo fel hyn?”

“Mae’n iawn i beidio mwynhau gweithio yn syth. Beth allen ni wneud i helpu chi i deimlo’n fwy sefydlog?”

Os nad yw’r person ifanc eisiau siarad am gwaith, ac maen nhw’n derbyn cymorth o Engage to Change, gallwch cysylltu â’r asiantaeth cyflogaeth â chymorth syn darparu hyfforddwr swydd i siarad am eich pryderon ac i dderbyn bach o sicrwydd.