Chwilio yn ol llais

Ar 23 Mai 17 fe wnaethon ni gynnal ymgynghoriad ar gyfer pobl ifanc gyda Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan. Roedd myfyrwyr o Coleg Pen-y-Bont ac aelodau o Pobl y Fro yn Gyntaf ymysg yr rhai a ymunodd a ni ym Mhrifysgol Caerdydd am y digwyddiad. Yn y bore, wedi arwain gan y tim ymchwil yn y Ganolfan Cenedlaethol Iechyd Meddwl, wnaethon ni drafod un o’r ffurfiau o asesu’r prosiect a sut i wneud yn siwr ei fod yn hygyrch. Yn y prynhawn wnaeth Anabledd Dysgu Cymru arwain ymgynghoriad ynglyn a defnydd y bobl ifanc yma o’r Rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol, i wneud yn siwr ein bod ni’n gwneud y gorau rydyn ni’n gallu i’ch ymgysylltu chi gyda’n dulliau cyfathrebu. Roedd yna gyfle i adolygu ein wefan newydd ac i ddweud wrthon ni beth rydyn ni’n gwneud yn gywir ac yn anghywir. Roedd yr adborth yn werthfawr iawn i ni ac rydyn ni’n gobeithio bod pob mynychwr wedi mwynhau!