Chwilio yn ol llais

Roedd seremoni Gwobrau Cenedlaethol Anableddau Dysgu ac Awtistiaeth ym Medi yn noson mawr ar gyfer Gerraint Jones-Griffiths. Llongyfarchiadau i’n Llysgennad Arweiniol, a wnaeth argraff ar y panel beirniadu nôl yng Nghorffennaf ac aeth ymlaen i ennill y wobr Torri Lawr Rhwystrau yng Ngwesty’r Marriott yng Nghaerdydd. Darllenwch am hyn a mwy yn ei blog.

Roedd Awst yn fis prysur iawn i fi fel Llysgennad Arweiniol ar gyfer y prosiect Engage to Change. Mae llawer o bethau cyffrous wedi bod yn digwydd.

Wnaeth Anabledd Dysgu Cymru fy enwebu ar gyfer Gwobr Cenedlaethol Anableddau Dysgu ac Awtistiaeth yn y categori ‘Torri Lawr Rhwystrau’.

Ar 21ain Awst cwrddais a tim Anabledd Dysgu Cymru. Cymrodd nhw luniau ohonof fi a rhoddodd nhw erthygl ynglŷn â fy enwebiad gyda’i gilydd.

Bu’r diwrnod beirniadu ar gyfer y wobrau yn cymryd lle ar 10fed Gorffennaf yng Nghwesty’r Marriott yng Nghaerdydd. Roedd yna gyfwelaid o 20 munud. Gofynnon nhw bethau fel “Pam wyt ti’n meddwl wnaeth Anabledd Dysgu Cymru dy enwebu?” “Pa effaith wyt ti’n credu rwyt ti’n cael ar eraill?” Roeddwn i wir yn nerfus, ond dywedodd y panel wrthaf i ar y diwrnod fy mod ar y rhestr fer ar gyfer y seremoni wobrwyo ar 28ain Medi.

Teimlais yn anrhydeddus iawn fy mod ar y rhestr fer. Dwi ddim yn siwr faint o bobl arall oedd ar y rhestr fer ar gyfer y categori, ond roeddwn i’m gobeithio am y gorau ar gyfer y seremoni wobrwyo ar 28ain Medi!

Y cod gwisg ar gyfer y seremoni oedd siwt a tei. Bydd y rheini sy’n fy adnabod yn gwybod fy mod yn caru gwisgo siwt felly roedd hynny’n berffaith!

Ennillais y wobr yn fy nghategori. Doeddwn i ddim yn meddwl y bydda i’n ennill oherwydd roedd fy nghyd-enwebeion yn sefydliadau da iawn fel ELITE [partner Engage to Change]. Roedd hi’n noswaith wych ar 28ain Medi.

Ar 15fed Awst gweithiais gyda Swyddog Datblygu’r Cyngor Cenedlaethol o Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan i ffurfio cynllun ar gyfer sesiynau ymsefydlu Llysgenhadon y prosiect. Dyluniwn ni’r agenda a siarad am sut bydd y diwrnod yn mynd.

Roedd sesiynau ymsefydlu’r Llysgenhadon yn cymryd lle ym Maes Awyr Caerdydd ar 17eg a 18fed Medi.

Fel rhan o’u ymsefydliad fel Llysgenhadon y prosiect wnaethon nhw gyflwyniad ynglyn a Engage to Change i bartneriaid y prosiect. Wnaeth y llysgenhadon argraff ardderchog ar y partneriaid gyda faint o waith yr oeddent wedi gwneud dros y dwy ddiwrnod.

Ar 29ain Awst fe wnaeth Cyfarwyddwr Cenedlaethol Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a fi creu’r rhestr fer ar gyfer ail rownd recriwtio Llysgenhadon, ac ar 4ydd Medi wnaethon ni gyfweld a penodi un ymgeisydd. Roedd y broses cyfweliad yn brofiad positif iawn, ac wedi rhoi’r cyfle i mi ddatblygu fy sgiliau cyfweld.

Teimlais bod yr ymgeisydd llwyddiannus Michael wedi rhoi cyfweliad ardderchog, ac rydw i’n edrych ymlaen at weithio gydag ef a’i croesawu i’r tîm gyda gweddill llysgenhadon y prosiect.