Chwilio yn ol llais

Cwrdd ag Elsa, George, Jordan a Jonathan – ein llysgenhadon Engage to Change newydd! Yn dilyn proses gais a chyfweliad, cawsant eu penodi ym Mai 2018 a gwnaethant eu ymddangosiadau cyntaf fel llysgenhadon yn ein Gwobrau Blynyddol ym Mehefin. Mae pob un yn cymryd rhan neu wedi cymryd rhan yn y prosiect Engage to Change cyn ddod yn llysgenhadon. Dyma eu straeon yn eu geiriau eu hunain. Heddiw, George.

George

Fy enw llawn (yn cynnwys fy enw canol) yw George Martin Breeze, ar hyn o bryd rwy’n byw gyda fy nhad, ac mae gen i Labrador lliw hufen a cath gwyn. Yn 2006 pan oeddwn ni’n bum mlwydd oed, cefais trawsblaniad aren a roddwyd gan fy nhad.

Rwy wedi mwynhau fy amser ar Project SEARCH oherwydd roedd pawb rwyf wedi cwrdd ar fy interniaethau wirioneddol yn hyfryd i weithio gyda. Ym mhob un o’r tri o’m interniaeth, rwyf wedi bod yn ymwneud â gweinyddiaeth. Trwy’r interniaethau rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau fel sgiliau tech gwyb a gweithio gyda cyfrifiaduron. Sgil arall rwyf wedi dysgu yw sgil trefnu, trwy sortio mas gwahanol ffeiliau a’i rhoi nhw ble mae rhaid iddynt fod.

Mae fy swydd newydd fel Llysgennad ar gyfer Engage to Change yn ymwneud â hyrwyddo’r prosiect mewn digwyddiadau, cynorthwyo pobl sy’n cymryd rhan mewn gweithdai, a helpu unrhywun arall gydag unrhywbeth.

Does gen i ddim problem gyda sefyll lan a siarad o flaen grwp mawr o bobl gan fy mod wedi gwneud hyn o’r blaen. Er enghraifft wnes i araith yn ystod fy seremoni raddio yn diolch i’r rheolwyr a’r mentoriaid am gael yr interniaid ar Project SEARCH.