Chwilio yn ol llais

Mae’r prosiect Engage to Change wedi cyflwyno tystiolaeth i Arolygiaeth Prawf EM ar sut i roi gwell cefnogaeth i bobl awtistig a phobl gydag anabledd dysgu yn y carchar.

Roedd yr ymgynhoriad yn gofyn, ymysg pethau eraill, am raglenni ac ymyriadau a ddyluniwyd neu a addaswyd yn benodol ar gyfer anghenion niwroamrywiaeth. Yn ein hymateb fe wnaethom awgrymu cyflogaeth gyda chefnogaeth fel dull o gefnogi pobl niwrowahanol yn y system cyfiawnder troseddol.

Gallwch ddarllen yr ymateb cyfan yma (Neurodiversity CJS E2C submission FINAL – yn agor mewn Word.) Mae cyfieithiad Cymraeg ar gael dim ond gofyn amdano.

Cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Grace am wahanol fformatau neu gydag unrhyw gwestiynau eraillGrace.Krause@LDW.org.uk.