Chwilio yn ol llais

Mae ein Llysgennad Arweiniol Gerraint Jones-Griffiths yn rhannu diweddariad ar beth sydd wedi bod yn fisoedd prysur iawn yn ei rôl.

a close up of a young man in a black suit and with bright red hair with his head sticking through the centre of a brightly coloured board that says Engage to Change celebrationRoedd rhwng Medi a Rhagfyr yn fisoedd prysur iawn. Rydw i’n mynd i ddechrau gyda Grŵp Trawsbleidiol Anabledd Dysgu Cymru. Cafodd y cyfarfod cyntaf ei gynnal yn rhithiol ar 21 Medi. Roedd yn fraint cael fy nghwahodd i hwn. Cafodd y grŵp ei sefydlu yn dilyn trafodaethau gyda’r Consortiwm Anabledd Dysgu am yr angen i roi sylw i’r problemau penodol y mae pobl gydag anabledd dysgu a’u teuluuoedd/gofalwyr yn eu wynebu yng Nghymru.

Mae Aelodau’r Senedd o rai o’n prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru ac aelodau’r Consortiwm Anabledd Dysgu yn rhan o’r Grŵp Trawsbleidiol. Anabledd Dysgu Cymru ydy’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y grŵp.

Mae’r Consortiwm Anabledd Dysgu yn cynnwys cyrff trydydd sector yng Nghymru sydd yn cynrychioli buddiannau pobl gydag anabledd dysgu a’u teuluoedd/gofalwyr: Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Cymorth Cymru, Anabledd Dysgu Cymru, Cymdeithas Syndrom Down (Cymru) a Mencap Cymru.

Ar y 30 Medi cefaif y fraint o fynychu digwyddiad Graddio Prosiect SEARCH Engage to Change Pen-y-bont. Rydw i wedi mynychu digwyddiadau graddio Prosiect SEARCH Engage to Change Caerdydd nifer o weithiau. Bob tro mae’n fy nharo faint mae pob intern wedi ei gyflawni yn y cyfnod byr o amser sydd ganddyn nhw. Dydy 9 mis ddim yn amser hir iawn yn fy marn i beth bynnag.

Gan symud nawr i fis Hydref, ar yr 22ain cynhaliodd Engage to Change y cyntaf o ddau Ddigwyddiad Dathlu. Roedd yn cael ei gynnal yng Ngwesty’r Village yng Nghaerdydd. Roedd yr awyrgylch yn drydannol gydag adloniant gwych. I restru dim ond ychydig, roedd yno ddisgo, bŵth tynnu lluniau, consuriwr a chanwr a gitarydd ffantastig o’r enw Garin Lang.

Agorodd Angela Kenvyn (Rheolwraig Prosiect Engage to Change) a minnau y noson. Fe wnaethon ni gyflwyno gwobrau i’r Llysgenhadon Prosiect yr oeddwn wedi cael y pleser o fod yn rheolwr llinell arnyn nhw ac fe wnaeth bob un weithio’n galed iawn. Roeddwn eisiau cyflwyno’r gwobrau iddyn nhw gydag Angela i gydnabod eu gwasanaeth i’r prosiect. Fe wnaethon ni hefyd gyflwyno gwobrau i Hyrwyddwyr Engage to Change.  Yr hyrwyddwyr ydy’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect ac wedi cynrychioli’r prosiect gan wneud cyflwyniadau ar-lein a gwneud ffilmiau am eu taith gyda’r prosiect.

Gan symud yn gyflym nawr i fis Tachwedd, ar yr 16eg roedd Cynhadledd Flynyddol, Anabledd Dysgu Cymru yn cael ei chynnal yn ne Cymru. Rydyn ni wedi cynnal y gynhadledd flynyddol yng Nghasnewydd am nifer o flynyddoedd ac i lawer o’n cynadleddwyr dyma gartref ein cynhadledd. Yn ddiweddarach ym mis Tachwedd fe wnaethon ni gynnal y Gynhadledd Flynyddol yng ngogledd Cymru. Fe fyddaf yn dweud rhagor am hyn yn nes ymlaen yn y blog yma.

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn garedig iawn wedi gofyn imi fod yn Gadeirydd eu Cynhadledd Flynyddol yn ne a gogledd Cymru. Y thema y flwyddyn yma oedd ”Lle rydyn ni’n mynd o’r fan yma?’ Roedd hyn yn meddwl edrych ar sut mae’r pandemig wedi effeithio arnon ni a sut rydyn ni’n gallu dysgu o hyn.

Yn ogystal â chadeirio’r cynadleddau fe wnaeth Engage to Change ofyn imi gyd-hwyluso eu gweithdai yn y ddwy gynhadledd hefyd. Yn ne Cymru y cyd-hwyluswyr oedd Tom Oakes (cyfranogwr yn Engage to Change a hyrwyddwr prosiect), Andrea Meek Ymchwilydd yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a minnau.

Ar 19 Tachwedd roedd Digwyddiad Dathlu Engage to Change yng ngogledd Cymru. Roedd yn union yr un fath â digwyddiad dathlu de Cymru gyda disgo, consuriwr a chanwr gitarydd Billy Bob, heb anghofio cyflwyno gwobrau i Lysgenhadon a Hyrwyddwyr gogledd Cymru. Cafodd ei gynnal yn Llandudno.

Yn y ddau ddigwyddiad dechreuais y parti a’r dawnsio gyda fy act deyrnged Elton John a Rod Stewart. Rhaid imi ddweud bod y ddau ddigwyddiad dathlu wedi bod yn llwyddiant mawr gyda nifer dda wedi dod i’r ddau ddigwyddiad.

Ar 24 Tachwedd cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol Anabledd Dysgu Cymru yng ngogledd Cymru yng Nghonwy. Fe wnes i gadeirio’r gynhadledd a gweithdy Engage to Change fel ag yn ne Cymru. Fe wnaeth Andrea gyd-hwyluso’r gweithdy gyda mi, ond doedd Tom ddim yn gallu bod yno oherwydd ei fod yn gweithio ac roedd hynny’n ffantastig oherwydd dyna ydy pwrpas y prosiect. Fe wnaethon ni felly ddangos fideo roedd Tom wedi ei baratoi ar gyfer y gweithdy yng ngogledd Cymru.

Roedd rhwydweithio y chwarter yma yn cynnwys Angela a fi yn cyfarfod Mel Millar o Disability Can Do, Dustin Yemm o Legacy International and national a Ben Morris o Hayes.  Fe wnaethon nhw ddweud wrthyn ni am eu gwaith ac fe wnaethon ni roi gwybodaeth iddyn nhw am Engage to Change.

Rydw i hefyd wedi cymryd rhan yn y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol; fe wnaethon nhw ofyn imi gymryd rhan yn eu Grŵp Llywio Ymgynghorol. Mae hyn yn meddwl edrych ar gynnwys o’u gwefan ac ar beth mae diagnosis yn ei feddwl i bobl gydag Awtistiaeth.

Rydw i wedi bod yn mynychu Grŵp Llywio Hawdd ei Ddeall Anabledd Dysgu Cymru.  Mae’r grŵp yma yn gweithio ochr yn ochr gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n edrych ar ydy brechlynnau yn hygyrch ac ydy pobl yn eu deall a pham eu bod angen gywbodaeth mewn fformat Hawdd ei Ddeall.

Rydw i hefyd wedi bod yn gweithio gyda ein partner prosiect Engage to Change, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda chyfranogwyr prosiect i greu ffilm hygyrch yn egluro’r papur gwerthuso diweddaraf gan y tîm ymchwil.

I orffen yn mis Rhagfyr fe wnes i gynllunio a chynnal cwis awr o hwyl i fy nghydweithwyr yn Anabledd Dysgu Cymru ac fe wnaeth helpu pawb i ymuno yn hwyl yr ŵyl.