Chwilio yn ol llais

Enw: Shaun Richards

Sut ydych chi’n teimlo am eich amser ar y rhaglen Engage to Change DFN Project SEARCH?

Roedd fy amser ar Project SEARCH yn dda ac yn ddrwg ar yr un amser oherwydd doeddwn i ddim yn mwynhau fy ail interniaeth.

Pa interniaethau ydych chi wedi gwneud ers i chi ddechrau Engage to Change DFN Project SEARCH?

Rydw i wedi gwneud tair interniaeth ers i mi ddechrau ar Project SEARCH mewn dwy siop goffi gwahanol yn y Brifysgol ac rydw i hefyd wedi gweithio yn Tesco yn fy nhrydydd interniaeth.

Beth oedd eich hoff interniaeth a pham?

Fy hoff interniaeth yw interniaeth tri oherwydd roeddwn i’n gweithio yn Tesco a wnes i gyfarfod pobl newydd, wella fy sgiliau gwasanaeth cwsmer a cefais sgyrsiau da gyda’r criw Tesco.

Disgrifiwch rhai o’r tasgau wnaethoch chi yn ystod y flwyddyn.

Ffeindiais i rhai o’r tasgau roedd i mi wneud yn hawdd unwaith cafon nhw ei ddangos i mi.

Sut mae hi wedi helpu chi i fod ar Engage to Change DFN Project SEARCH a beth ydych chi wedi dysgu yn ystod y flwyddyn?

Mae Project SEARCH wedi fy helpu i gyllido fy arian ac wedi helpu fi i ddod yn fwy aeddfed.

Sut mae Lily (hyfforddwr swydd), Kerri a Bev (hyfforddwyr y coleg) wedi helpu chi yn ystod y flwyddyn? Pa fath o gymorth ydych chi wedi derbyn ohonynt?

Mae Lily, Kerri a Bev wedi helpu fi gwneud ceisiadau am swyddi ac wedi helpu ni i baratoi ar gyfer cyfweliadau. Maen nhw hefyd wedi helpu ni rhoi hwb i’n hyder.

Pa fath o swyddi ydych chi’n gwneud cais amdano ac a ydych chi wedi bod yn llwyddiannus eto?

Rydw i wedi bod yn ymgeisio am rolau cynorthwy-ydd manwerthu mewn archfarchnadoedd lleol ond yn anffodus dydw i ddim wedi bod yn llwyddiannus yn ffeindio swydd gan nad oes gen i ID ffotograffig eto.

Nawr bod Engage to Change DFN Project SEARCH yn dod i ddiwedd, beth fyddwch chi’n hoffi gwneud, neu’n cynllunio gwneud, yn y dyfodol?

Hoffwn fod yn actor a cael fy wylio ar y teledu oherwydd mae wedi bod yn fy mreuddwyd ers i mi fod yn wyth mlwydd oed, rydw i wedi bod yn cyflawni’r nod yma trwy ymuno â cwmni theatr.