Blog Gerraint Ebrill 2020
Oherwydd y cyfyngiadau symud dydw i heb fod yn crwydro gyda’r digwyddiadau Prosiect Engage to Change. Ond peidiwch â phoeni, rydw i wedi bod yn cadw fy sgiliau cyflwyno yn ffres fel fy mod i’n barod i weithredu’n syth unwaith y bydd hi’n ddiogel mynd allan eto!
Rydw i wedi bod yn gwneud sioe fyw ar Facebook bob dydd Gwener, gyda chefnogaeth fy nghariad. Mae’n debyg i sioe siarad gyda rhywfaint o ganu rhwng y sgwrsio. Rwy’n gwneud llawer o’r canu, gan gynnwys ceisiadau arbennig gan y gynulleidfa rithwir. Mae fy nghariad yn canu rhywfaint hefyd. Rwy’n gwneud y sioe yn fy amser fy hun, ac rydyn ni’n cael tua 300 o bobl yn gwylio’r sioe ar gyfartaledd. Fe wnaeth 605 o bobl wylio’r sioe gyntaf!
Mae hwn wedi bod yn brofiad gwych i gadw fy sgiliau cyflwyno i fynd tra na allaf grwydro gyda’r prosiect, ac mae’n help mawr gyda fy natblygiad personol. Mae cyd-gyflwyno o bell wedi bod yn dipyn o her, ond mae wedi bod yn gyfle gwych i adeiladu ar fy sgiliau cyflwyno blaenorol.
Ar ôl siarad ar Messenger gyda rhai ffrindiau sydd wedi gwylio’r sioe, mae’n rhoi hwb gwirioneddol i mi i sylweddoli sut rydw i wedi codi calon pobl sy’n dioddef o felan y cyfyngiadau symud. Mae’n dda gwybod fy mod i’n helpu i gadw pobl mewn cysylltiad a lledaenu rhywfaint o hapusrwydd mewn cyfnod anodd!