Chwilio yn ol llais

Roedd interniaid y gorffennol a’r presennol ar Brosiect SEARCH Engage to Change Prifysgol Caerdyddwrth eu bodd o gael ymweliad gan Jayne Bryant AS  a ddaeth i ddysgu rhagor am y rhaglen interniaeth gyda chefnogaeth.

Prifysgol Caerdydd ydy’r busnes sydd yn cynnal Prosiect SEARCH ac mae wedi darparu lleoliadau interniaeth i dros 75 o bobl ifanc gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth dros y 7 mlynedd diwethaf.  Datblygwyd y rhaglen fel rhan o Brosiect ehangach Engage to Change, menter cyflogaeth gyda chefnogaeth ledled Cymru a ddechreuodd yn 2016. Cyflwynir y rhaglen interniaethau gyda chefnogaeth gan bartneriaeth sy’n cynnwys Anabledd Dysgu Cymru, Project SEARCH DFN, Asiantaeth Cyflogaeth â Chefnogaeth ELITE, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd, a Choleg Caerdydd a’r Fro. Cafodd yr ymweliad, a gynhaliwyd gan y Tîm Ymchwil Engage to Change yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, ei threfnu yn dilyn ymweliad blaenorol gan Hefin David AS a arweiniodd at gwestiynau ynghylch cyflogaeth â chymorth i bobl ifanc sydd ag anabledd dysgu ac/neu awtistig yn cael eu gofyn yn y Senedd.

Codi dyheadau: Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o Bobl Ifanc gydag Anableddau Dysgu i gyflogaeth

Ymwelodd Jayne Bryant AS â’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl lle cafodd ei chyfarch gan Lysgennad Arweiniol Engage to Change Gerraint Jones Griffiths a Dr Stephen Beyer – uwch gymrawd ymchwil ac arweinydd ar gyflogaeth Anabledd Dysgu, gyda chynrychiolwyr o bartneriaid y prosiect, gan gynnwys Rheolwraig y Prosiect, Angela Kenvyn o Anabledd Dysgu Cymru. Cafodd Ms Bryant wybodaeth am Engage to Change a’r rhaglen interniaeth cyn dechrau taith i gwrdd ag interniaid cyfredol ar draws y Brifysgol yng nghwmni tiwtor cwrs Project SEARCH o Goleg Caerdydd a’r Fro ac Ymgynghorydd Cyflogaeth gan Asiantaeth Cyflogaeth gy7da Chefnogaeth ELITE.

Labordy Concrete Prifysgol Caerdydd yn yr Ysgol Peirianneg oedd y stop cyntaf i gwrdd â’r intern Steffan Fitzgerald a’i fentor yn y gweithle.  Fe wnaeth Steffan siarad â Ms Bryant am y gwaith yr oedd yn ei wneud yn yr adran fel cynorthwyydd labordy. Nesaf, gwnaed ymweliad ag Adran Gofrestru Prifysgol Caerdydd yn Nhŷ McKenzie lle cyfarfu Ms Bryant gyda’r intern Elenor Watson, sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar interniaeth gweinyddiaeth. Roedd y ddau intern yn falch o gwrdd â’r Gweinidog a disgrifio eu gwaith, i drafod sut roedden nhw wedi elwa o’u lleoliadau, a’r effaith roedd yr interniaethau wedi’i gael ar eu hyder a’u bywydau. Yn dilyn eu interniaethau Project SEARCH, bydd Steffan ac Elenor yn cael cefnogaeth i gael gwaith cyflogedig.

Yna, cyfarfu Ms Bryant â Tyler Savory ac Andrew Worsey, a gafodd waith cyflogedig yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl o ganlyniad i’w interniaethau blaenorol. Bellach yn gweithio mewn rolau cofnodi data a gweinyddu maent wedi dod yn rhan hanfodol o’r tîm staff. Mae Tyler wedi siarad mewn sawl digwyddiad yn tynnu sylw at y gwahaniaeth mae cael swydd gyflogedig a chefnogaeth dda wedi’i wneud i’w fywyd, ac y byddai’n ansicr heb y cyfleoedd hyn beth y byddai’n ei wneud nawr. Dywedodd wrth Ms Bryant nad oedd yn gwybod bod rolau o’r fath ar gael cyn dechrau ei interniaeth, ond mae bellach yn hapus ac yn falch o weithio gyda’r tîm ar yr ymchwil pwysig maen nhw’n ei wneud.

Ymunodd Tyler ac Andrew â thrafodaethau rhwng Ms Bryant a phartneriaid y prosiect ynglŷn â’r hyn sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru i gefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth i gyflogaeth, gan gynnwys yr angen am fwy o ganolbwyntio ar well pontio o addysg, effaith diwygio ADY a’r angen brys am wasanaeth hyfforddi swyddi cenedlaethol.

Mae ymchwil yn y project Engage to Change yn dangos sut y gall dulliau sy’n defnyddio mewnbwn hyfforddi swyddi medrus ddod o hyd i swyddi cyflogedig i bobl ag anableddau dysgu. Mae pobl ag anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth yn cael eu tangynrychioli ym mholisïau cyflogaeth y llywodraeth ar gyfer pobl anabl. Mae diffyg argaeledd hyfforddiant swyddi medrus sy’n cael ei gynnig drwy gynlluniau’r llywodraeth i gefnogi pobl sy’n chwilio am waith. Heb raglenni sy’n cynnig hyfforddiant swyddi, mae’n anodd darparu profiad gwaith â chymorth wrth gynnal busnesau fel Prifysgol Caerdydd. Mae cefnogaeth yn y swydd yn hanfodol i ddarparu profiad gwaith a swyddi.

Mae Engage to Change wedi arloesi drwy ddefnyddio Interniaethau gyda chefnogaeth yng Nghymru, a dysgwyd llawer sut y gellir cynnwys dysgu yn y gweithle yn y busnes sydd yn cynnal. Yn fwy na hyn, mae wedi dangos sut y gall partneriaethau Coleg ac Asiantaeth Cyflogaeth gyda Chefnogaeth ddarparu’r model hwn yn effeithiol. Mae potensial sylweddol i wireddu hyn wrth symud ymlaen gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Dywedodd Rheolwr y Prosiect, Angela Kenvin:

Roedd yn falch o gael y cyfle hwn i arddangos y rhaglen Interniaeth gyda Chefnogaeth i Ms Bryant, sy’n Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Senedd. Mae llwyddiant y rhaglen yn deillio o’r ymrwymiad a’r bartneriaeth gref rhwng pawb sy’n gysylltiedig, ynghyd â pharodrwydd y bobl ifanc i roi cynnig ar rywbeth newydd. Rydym yn obeithiol y bydd trafodaethau gyda Ms Bryant yn cael eu bwydo’n ôl i Bwyllgor y Senedd a Llywodraeth Cymru.”

Prifysgol Caerdydd yw’r Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gynnal interniaethau Project SEARCH drwy’r prosiect Engage to Change ac yn cynnig cefnogaeth cyflogaeth wedi’i deilwra i bobl ifanc sydd ag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth. Mae’r llwyddiant yn ganlyniad i ymrwymiad staff y brifysgol a gweithio mewn partneriaeth gyda’r addysgwr/ asiantaeth gyflogaeth gyda chefnogaeth, ynghyd â’r parhad y mae’n ei gynnig i’r bobl ifanc wrth iddynt fynd i fyd cyflogaeth oedolion.

group of people posing together and smiling

Mae Jayne Bryant AS yn ymweld gyda phartneriaid Prosiect SEARCH Interniaeth gyda Chefnogaeth Engage to Change ym Mhrifysgol Caerdydd. O’r chwith i’r dde:   Dr. Stephen Beyer, Angela Kenvyn, Julie Bugden, Gerraint Jones-Griffiths, Dr. Elisa Vigna, Kayleigh England-Maxted, Jayne Bryant MS, Sian Blowers, Andrea Wayman, Chris Day, Andrew Worsey, Tyler Savory.