Chwilio yn ol llais

Mae Elen yn mwynhau gweithio yn Eurospar Blaenau Ffestiniog yn fawr. P’un a yw’n gweithio ar y tiliau, trefnu stoc, y cludiannau neu ddim ond sgwrsio gyda chwsmeriaid a rhoi croeso iddynt yn eu siop leol, mae Elen yn mwynhau’r ymdeimlad o berthyn y mae hi’n ei gael o’r Eurospar a’r holl staff yno.

Mae Elen yn awtistig, ond nid yw hynny erioed wedi ei hatal rhag gweithio tuag at ei chyrchnodau. O astudio at ei chymhwyster Lefel 2 mewn Busnes yng Ngholeg Meirion Dwyfor i’w swydd hi nawr yn y byd gwaith, mae Elen wedi ffynnu gyda’r gefnogaeth iawn ar gyfer ei hanghenion. Ers mis Tachwedd, mae’r prosiect Engage to Change wedi bod yn cefnogi Elen yn ei swydd 16 awr yr wythnos yn yr Eurospar trwy ymagwedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n cynnwys hyfforddiant yn y swydd,  hyfforddiant CV a chyfweliad, a mathau eraill o gefnogaeth gyflogaeth ar ei chyfer hi a’i chyflogwr. Yn ei rôl, mae ei chyflogwr, Emma, yn dweud bod Elen yn arbennig o dda wrth werthu’n weithredol a gyda phobl sydd â phlant.

Mae’r prosiect Engage to Change yn cydweithio â 1000 o bobl ifanc ac 800 o gyflogwyr dros gyfnod o bum mlynedd i ddarparu lleoliadau gwaith â thâl 6-12 mis ar gyfer pobl ifanc 16 i 25 oed yng Nghymru sydd ag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth. Mae’r ymagwedd hon yn cynnig cyfle i bobl ifanc ennill y profiad a sgiliau trosglwyddadwy y mae eu hangen i symud i swydd tymor hwy. Yn wir, mae Elen eisoes wedi sicrhau contract rhan-amser parhaus gan Eurospar o 8 awr yr wythnos y tu hwnt i leoliad gwaith y prosiect.

Mae’r asiantaeth cyflogaeth a gefnogir, Agoriad, yn cefnogi Elen yn ei swydd. “Rwyf wedi gwella llawer ers cael swydd,” meddai Elen. “Rwy’n cyfathrebu’n llawer gwell, mae fy nghyswllt llygad yn llawer gwell ac rwy’n ddiolchgar iawn i staff Eurospar.” Mae Emma yn cytuno, ac yn ychwanegu bod Elen yn llawer mwy hyderus ers dechrau ar y rhaglen.

Mae Elen yn credu ei bod hi’n gyflogai gwell diolch i’r staff Agoriad sydd wedi bod yn ei chefnogi. “Ers i mi gwrdd â Bethan, Zoe ac Angela [staff Agoriad] hefyd, maen nhw wedi fy helpu [adnabod] pa fathau o gamgymeriadau rwy’n eu gwneud a sut i wneud pethau’n well, felly rwy’n ddiolchgar iawn i Bethan, Zoe ac Angela.” Mae Zoe, sy’n hyfforddwr swydd, yn cytuno nad oes angen cymaint o gefnogaeth ar Elen erbyn hyn, a’i bod yn fwy cywir bellach wrth gwblhau dyletswyddau fel trefnu’r stoc.

Mae mam Elen, Delyth, hefyd yn hapus iawn gyda’r cynnydd y mae hi wedi gweld ei merch yn ei wneud. Ei phryder hi yw ei bod yn credu y dylai’r math o gefnogaeth y mae Elen yn ei derbyn gan Engage to Change fod ar gael yn ehangach dros yr hir dymor. “Nid yw’r awtistiaeth yn mynd i ffwrdd. Mae yno o hyd, ac fe hoffwn weld bod y gefnogaeth ar gael ar ôl chwe mis.” Mae hi eisiau gweld mwy o bobl ifanc yn yr un sefyllfa ag Elen, yn derbyn y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt i fyw bywyd llawn.

Dyma pam mae etifeddiaeth barhaus Engage to Change yn aruthrol o bwysig. Bydd y tîm ymchwil gyda’r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol yng Nghaerdydd yn gwerthuso canlyniadau’r model cyflogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn barhaus, gan obeithio dangos buddion yr ymagwedd i gyflogwyr a’r sawl sy’n llunio polisi ac annog i’w fabwysiadu’n helaeth er mwyn i’r bobl ifanc hyn wireddu eu potensial llawn.

Mae Elen yn edrych ymlaen at y dyfodol hefyd. Mae hi’n gobeithio dysgu gyrru yr haf yma, pan fydd y tywydd yn gwella ym Mlaenau. Wrth iddi barhau i ennill mwy o sgiliau a chynyddu ei hyder, mae hi’n gobeithio cael y cyfle i weithio mwy o oriau yn Eurospar. “Rwy’n hoffi gweithio yn Eurospar a dod i nabod mwyfwy o bobl, a staff newydd wrth gwrs,” dywedodd gyda gwên. “Felly rwy’n gobeithio y byddaf yn cyflawni’r nodau hynny.”

Elen Blaenau Ffestiniog
Dyddiad a Bostiwyd: 30.03.2017 30th Mawrth 2017
Elen