Chwilio yn ol llais

Dyma Joe Powell, Cyfarwyddwr Cenedlaethol ein partner hunan-eiriolaeth Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, yn blogio ar ein penblwydd cyntaf ynglyn a potensial Engage to Change i newid agweddau tuag ag pobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn ein cymdeithas.

Wrth i ni nesau at yr etholiad cyffredinol ym Mehefin, mae’r trafodaethau ynglyn a dosbarth yn fy niddordebu yn fawr. Mae’n ymddangos fod dosbarth cymdeithasol yn cael ei defnyddio gan wleidyddion fel ffordd o geisio perswadio pleidleiswyr mai nhw yw’r bobl gyda’r lefel cywir o uniondeb a’r lefel cywir o brofiad uniongyrchol i gynrychioli pobl cyffredinol y genedl. Ond pwy sy’n cynrychioli pobl gydag anableddau dysgu a pobl ar y sbectrwm awtistig yn y byd gwleidyddol? Pa ddosbarth ydyn nhw’n perthyn i?

Baswn i’n dadlau yn syml ei fod nhw byth wedi bod yn rhan o’r system ddosbarth. Maen nhw methu hyd yn oed galw ei hunain yn y ddosbarth weithiol, oherwydd am gymaint ohonynt nid oedd y gobaith o gyflogaeth yn opsiwn. Dyma un o’r rhesymau rydw i’n teimlo bod gymaint o bobl gydag anableddau dysgu yn amheus am y broses wleidyddol. Pam basech chi’n pleidleisio os ydych chi’n teimlo eu bod yn difreinio o’r gymdeithas brif ffrwd. Pam basech chi’n cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau ynglyn a dyfodol y genedl pan mae cymdeithas wedi eich ddileu a’ch tynghedu chi i fodolaeth o gartrefi gofal a canolfannau dydd, ac yn y bôn eich bod wedi ymddeol yn feddygol yn ddeunaw oed? Fel yr wyf wedi dweud sawl gwaith o’r blaen, nid oedd eisiau gan y gymdeithas ar bobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth. Roedd cymdeithas yn hapus i dalu beth bynnag mae’n cymryd, i gadw ni i ffwrdd o’r brif ffrwd. Tan nawr, pan mae’r wlad wedi torri. Roedd pobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn yr eiriolwyr mwyaf o gymryd rhan yn y gweithlu, gwneud cyfraniad positif a chwarae rhan yn y gymdeithas, ond nid oedd y gymdeithas eisiau ni. Nawr bod y gymdeithas ddim eisiau talu i gadw ni dim mwy, rydyn ni gyd gyda’n gilydd yn ôl pob golwg. Y broblem yw bod llawer o bobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth wedi cwympo y tu ol i’w cyfoedion oherwydd y diffyg ffydd ynddynt. I newid hyn, mae hi’n hanfodol bod y mecanweithiau cymorth cywir yn cael eu rhoi ar waith o oedran cynnar. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo dyhead a chyfleoedd cyfartal am addysg ac/neu hyfforddiant.

Mae Engage to Change yn cynnig cyfle i geisio newid y diwylliant yma. Trwy rhoi cyfleoedd digonol i bobl i dyfu, mewn ffordd realistig a chefnogol, gall pobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth ddisgleirio. Bydd eu presenoldeb yn y gymdeithas brif ffrwd yn mynd yn bell o ran helpu i newid y canfyddiau negyddol y mae pobl yn y gymdeithas brif ffrwd yn cael andanom ni. Mae pob cyfranogwr yn llysgennad, nid yn unig am y prosiect but am hawliau cyfartal. Mae pob cyfranogwr hefyd yn arloeswr am fyd newydd ble mae pobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn rhan angenrheidiol o’r weithlu.

Beth sy’n fy nghyffroi mwyaf am y prosiect yma yw nid yn unig bod gymaint o fuddiolwyr y prosiect yn derbyn cyfleoedd gwir i fynd i mewn i’r gweithle (er bod hyn yn ganlyniad rhagorol). Beth sy’n fy nghyffroi mwyaf yw’r manteision posib yn y tymor hir i helpu i newid agweddau’r cyhoedd tuag at bobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn y gymdeithas. Trwy gwneud y prosiect hyn yn lwyddiant mae yna botensial i ni rhoi sylfaen dystiolaeth gadarn i Lywodraethau Cymru a’r DU, i siapio polisi i wneud yn siwr bod y cyfleoedd yma yn cael eu ymestyn i bawb yn y dyfodol. Yn bersonol rwy’n credu y basai hyn yn etifeddiaeth ddelfrydol i’r prosiect.

Wrth gwrs mae hi’n anffodus nad yw’r prosiect yn medru cynnwys pobl o bob oedran. Nid yw hyn yn meddwl bod pobl o bob oedran yn methu elwa o’r menter yma. Mae demograffeg Cymru yn ddigon bach yn logistaidd i dreialu’r cynllun hwn ac yn ddigon fawr o ran poblogaeth i rhoi tystiolaeth go iawn bod pobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn medru ennill a chynnal lleoliadau gwaith.

Fodd bynnag, mae llwyddiant Engage to Change yn dibynnu ar llawer o bethau. Mae llwyddiant neu methiant y prosiect yma nid yn unig am sut more dda mae partneriaid y prosiect yn darparu’r prosiect. Mae hi’n angenrheidiol bod y rhai sy’n derbyn lleoliadau ar y prosiect yn cymryd eu cyfleoedd ac gwneud hyn gweithio. Mae talent yn ddiwerth oni bai bod pobl yn cael cyfleoedd i ddefnyddio’r talent, ac mae cyfleoedd yn meddwl dim oni bai bod pobl yn cymryd y cyfleoedd yn y lle cyntaf. Rwy’n galw ar yr holl fuddiolwyr i chwifio’r faner am bobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn y gweithlu ac i herio rhagfarn y gymdeithas amdanom. Rydych chi’n gwneud hyn trwy bod yn weladwy, yn ddibynadwy, ac anad dim, trwy fod yn chi eich hun.

Rydyn ni hefyd angen ewyllys da a cyd-weithrediad gweddill y trydydd sector. Roedd grant gwreiddiol Getting Ahead 2, ei roi o’r neilltu o gyfrifon banc heb eu hawlio i helpu i gael pobl rhwng 16-25 i mewn i waith, o bosibl yn gatalydd pwysig am newid cymdeithasol pwysig ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth. Nid oedd ots pwy sicrhaodd y cais llwyddiannus, ond bod pwy bynnag a ennillodd yn ei ddarparu hi’n dda.

Mae’n ddyletswydd ar unrhyw un sy’n credu’n wirioneddol y dylai pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth cael hawliau cyfartal i fynd i mewn i’r gweithle, i wneud beth bynnag y gallant i sicrhau bod hyn yn llwyddiant. Yn fy mhrofiad fel rhywun a oedd yn byw mewn gwasanaethau gofal anabledd dysgu ac wedi defnyddio canolfannay dydd am unarddeg blynedd, roedd hi bob amser yn wleidyddiaeth y gweithle, cenfigen ac egos a danseiliodd mentrau positif a all sicrhau newid gwirioneddol a parhaol. A pob tro, pobl fel fi a dalodd y pris.

Rwy’n erfyn pawb sy’n darllen hwn, ar ben-blwydd y prosiect cyntaf, i ymuno â ni wrth geisio gwneud hanes. Er mwyn ceisio rhoi terfyn ar fodolaeth ddibwrpas ac ofer y mae cymaint o bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth wedi gorfod dioddef am gyfnod mor hir. Byddwch yn rhan o’r llwyddiant hwn. Ni allwn wneud hyn hebddoch. Ymgysylltwch gyda ni, fel y gallwn geisio dylanwadu newid gwirioneddol a chadarnhaol i fywydau cymaint o bobl sydd wedi cael eu dileu gan y gymdeithas.

Penblwydd Hapus cyntaf Engage to Change!

Joe Powell, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan