Chwilio yn ol llais

Cwrdd ag Elsa, George, Jordan a Jonathan – ein llysgenhadon Engage to Change newydd! Yn dilyn proses gais a chyfweliad, cawsant eu penodi ym Mai 2018 a gwnaethant eu ymddangosiadau cyntaf fel llysgenhadon yn ein Gwobrau Blynyddol ym Mehefin. Mae pob un yn cymryd rhan neu wedi cymryd rhan yn y prosiect Engage to Change cyn ddod yn llysgenhadon. Dyma eu straeon yn eu geiriau eu hunain. Rydym yn dechrau gyda Elsa.

Elsa

Fy enw i yw Elsa Jones. Rwy’n byw gartref yng Nghanolbarth Cymru gyda fy rhieni. Mae gen i brawd a chwaer henach, tri nai, ac un nith, felly rydw i’n mwynhau gwario amser gyda nhw. Rydw i hefyd yn gwirfoddoli mewn siop elusen o’r enw’r Seven Hospice. Dwi’n gwneud dau ddiwrnod yr wythnos a weithiau gallaf wneud diwrnod ychwanegol. Ar y rhaglen Engage to Change rydw i’n gweithio mewn caffi yn y pentref lleol o’r enw’r Buck Tea Rooms. Dwi’n gweithio ar ddydd Iau ac mae hi’n cynnwys gweinyddu’r cwsmeriaid, golchi i fyny, glanhau a gosod byrdday, gwneud diodydd, a gwneud yn siwr bod y cwsmeriaid yn hapus. Rwy’n mwynhau cymdeithasu, ymweld ag atyniadau twristaidd, a siopa. Rydw i hefyd yn ymwneud â gefeillio’r dref. Rwy’n hoffi gwneud cacennau a mynd nofio a bowlio, ac rydw i hefyd yn hoffi mynd i ddigwyddiadau bwyd a chrefft.

Gofynnwyd i mi greu blog i ddweud wrth y bobl hyfryd am fy siwrnai.

Yn Awst 2017 ymunais â rhaglen Agoriad (Engage to Change), sydd wedi bod yn bleserus iawn. Mae hi’n ymwneud â cwrdd pobl, cael profiad mewn amgylchedd gwaith, a cael annibyniaeth. Mae gen i gefnogaeth o Bethan a hefyd fy hyfforddwr swydd Angharad, ac rwy’n edrych i gael gwaith cyflogedig yn ogystal â gwaith gwirfoddol.

Cefais newyddion cyffrous bod Bethan o Agoriad wedi danfon ebost i mi ynglŷn â swydd sydd wrth ymyl y rhaglen, mae hi’n rôl fel llysgennad. Fe wnes i ymgeisio ac roedd yna bedwar ohonom a gafodd y swydd. Mae’r swydd yn ymwneud â hyfforddiant, siarad â ysgolion a cyflogwyr, a gweithio yn nigwyddiadau lle mae Engage to Change yn gysylltiedig.

Ar y rhaglen mae’r bobl rydych chi’n cwrdd yn gyfeillgar iawn ac rydych chi’n gallu dysgu am eu profiadau diweddar a blaenorol.

Ar y 14eg Mehefin roeddwn i yn nigwyddiad yn Nhreffynnon yng Ngogledd Cymru mewn gwesty. Teithiais mewn tren ac am ail rhan y daith teithiais gyda fy hyddorddwr swydd i’r gwesty. Ar y diwrnod, fy swydd oedd cyflwyno gwobrau a gwrando ar areithiau gan cyflogwyr, rhieni, a pobl sydd ar y rhaglen. Darparwyd bwyd a diodydd neis iawn hefyd.

Ar y 17eg Mehefin oedd y digwyddiad nesaf yng Ngwesty’r Copthorne. Teithiodd fy mam a fi i Gaerdydd ac yna cyrraedd a cael ein pryd o fwyd am saith o’r gloch. Roedd grwp bach ohonom wedi cael y pryd bwyd ac eistedd a sgwrsio, a phan gorffennon ni wnaethon ni sefydlu’r ystafell ar gyfer y digwyddiad. Ar y dydd Mawrth fy swydd oedd i fod ar y ddesg derbynfa yn croesawu pobl a dosbarthu siocledi arbennig iawn. Cafodd y siocledi ei crey gan deulu a penderfynodd i sefydlu busnes ar gyfer ei plentyn sydd gan awtistiaeth. Enw’r busnes yw Harry Specter’s. Roedd y siocledi mewn bocs bach ac roedd yna ddau siocled, siocled llaeth a siocled gwyn. Mae gan y siocled gwyn logo Engage to Change wedi’i argraffu arno.

Trwy gydol y dydd roedd yna areithiau gan cyflogwyr, rhieni, a pobl ar y rhaglen a oedd yn ddiddorol iawn. Roeddwn i’n ymwneud â gweithdy ac roeddem yn gwrando ar bobl yn cael trafodaethau a gofyn os oedd angen help arnynt. Wnes i hefyd gyflwyno gwobrwyon. Ar gyfer cinio roeddem i gyd yn eistedd yn y bwyty a darparwyd ein pryd bwyd a diodydd. Ar ôl i’r digwyddiad orffen cawsom lifft yn ôl i ganol y dref cyn iddo fod yn amser i adael ar y tren.

Yng Ngogledd Cymru derbyniais wobr am Berson Ifanc y Flwyddyn i gydnabod fy ngwaith a fy nghyfranogiad yn y prosiect Engage to Change.

Mae hi mor neis i glywed bod pobl yn gweithio’n dda iawn ac yn mwynhau’r rhaglen a dysgu profiadau newydd.

Mae’n galonogol gwybod bod trwy ymroddiad y tim mae cyflogwyr yn awyddus i gymryd rhan mewn Engage to Change. Dywedodd rhieni ac oedolion ifanc a fynychodd faint y maent yn ennill o Engage to Change yn agor cyfleoedd.