Chwilio yn ol llais
Wrth i flwyddyn newydd academaidd ddechrau, rydyn ni’n croesawu carfanau newydd yn ein safleoedd DFN Project SEARCH yng Nghaerdydd a Bangor ac yn dathlu blwyddyn gyntaf safle newydd ym Mhen-y-Bont.
  • Yn dilyn llwyddiannau ein safleoedd yng Nghaerdydd a Bangor, mae Coleg Pen-y-Bont, Bwrdd Iechyd ABMU, ac ELITE wedi bod yn gweithio’n galed mewn partneriaeth i ddod a’r rhaglen i ardal Pen-y-Bont. Mynychodd Eluned Morgan AC y lansiad yn Ysbyty Tywysoges Cymru wythnos diwethaf a canmolodd hi’r gwaith sydd wedi mynd mewn i sefydlu’r prosiect arloesol yma.
  • Dywed helo i’n carfan newydd yng Nghaerdydd! Ar hyn o bryd mae’r grwp wrthi’n ymsefydlu, ar ôl hynny byddant yn cychwyn eu interniaethau newydd gyda cyflogwr Prifysgol Caerdydd gyda chefnogaeth o ELITE a Coleg Caerdydd a’r Fro.
  • Croeso i’r dosbarth newydd o interniaid ym Mangor wrth i ni ddechrau ein ail flwyddyn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr! Mae ein Llysgennad Arweiniol Gerraint wedi bod yn cyfarfod â nhw.

Fel erioed, byddwn yn dilyn eu cynnydd trwy’r flwyddyn wrth iddynt ennill sgiliau a phrofiad amhrisiadwy, cyfarfod pobl newydd, a datblygu lefelau uwch o hyder ac annibyniaeth gyda chymorth o’r prosiect. Pob lwc pawb!