Chwilio yn ol llais

Ar 4ydd Mehefin, fe wnes i gynnal sesiwn diweddaru gyda Llysgenhadon prosiect trwy Zoom. Aethom drwy gyflwyniadau’r Llysgennad Engage to Change. Helpodd y sesiwn i gadw sgiliau’r Llysgenhadon yn gyfoes, fel eu bod yn barod i wneud cyflwyniadau cyn gynted â bod digwyddiadau’r prosiect yn dechrau eto.

Mynychais sesiwn Gwerthuso Prosiect Zoom ar 17 Mehefin. Aeth yn dda a chawsom adborth defnyddiol gan bobl ifanc sydd wedi ymwneud â’r prosiect. Roedden nhw’n siarad am rai o’r materion a oedd ganddynt, ac rwy’n gobeithio y byddant yn gallu dylanwadu ar y prosiect yn y dyfodol.

Bob pythefnos rwy’n mynychu cyfarfodydd rhanddeiliaid cynnwys gwefan ASD Info Wales. Rydym yn gwneud awgrymiadau ynglŷn â chynnwys a hygyrchedd.

Ar 18 Mehefin, cafodd Tracey Drew, Angela Kenvyn a minnau gyfarfod cynllunio areithiau. Buom yn siarad am gynllun ar gyfer fy araith ar gyfer Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Rhoddais yr araith yn y digwyddiad Archwilio Gwydnwch Ieuenctid drwy Zoom ar 24 Mehefin. Soniais am y prosiect, yr hyn rydym wedi’i ddysgu hyd yma, a’r rhwystrau mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth fynd i’r gwaith.

Cynhaliais yr ‘Awr Hwyliog Gerraint’ cyntaf ar Zoom ar 30 Mehefin. Gofynnais ychydig o gwestiynau i helpu gyda gwerthuso’r prosiect, a chawsom rhywfaint o hwyl gyda mi yn canu ambell i gân ar y cariocî. Roedd pawb yn dawsio yn eu cadeiriau.

Cefais adborth gwych ac rydym yn gobeithio cael mwy o bobl i gymryd rhan yn y sesiynau nesaf. Dw i wedi dechrau paratoi yn barod!