Chwilio yn ol llais

Dyma Jim Crowe, Cyfarwyddwr Anabledd Dysgu Cymru ac Arlywydd yr EASPD, yn tynnu sylw at sut y mae cynhadledd newydd byd-eang ar cyflogaeth gyda chymorth yn anelu at ddatgloi cyflogaeth ar gyfer pobl anable ar draws y byd. Mae’r cynhadledd yn cymryd lle yn Belfast yr wythnos yma.

Rydw i’n gwneud paratoadau munud olaf i deithio i Belfast fory ar gyfer ‘Cyflogaeth i Bawb – Safbwynt Byd-Eang, y Cynhadledd Rhyngwladol Cyntaf ar Cyflogaeth gyda Chymorth’. Cynhaliwyd y cynhadledd pwysig yma – y cyntaf o’r fath – gan EUSE (European Union of Supported Employment) ac EASPD (European Association of Service Providers of Persons with Disabilities), a drefnwyd gan NIUSE (Northern Ireland Union of Supported Employment).

Fe fydd y cynhadledd yn archwilio sut y gallwn ni gyflawni cynhwysiant llawn pobl anabl yn y farchnad lafur agored. Fe fydd y drafodaeth yn ffocysu ar weithrediad erthygl 27 ar Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau  (mynediad hafal i waith a chyflogaeth), ac fe fydd yn cwmpasu amrywiaeth o themau, yn cynnwys fframweithiau cyfreithiol ar draws y byd, ac offer ymarferol a ffyrdd well i gyrraedd ac i ymgysylltu gyda cyflogwyr.

Fel Arlywydd EASPD mae hi’n fy anrhydedd i gyd-gadeirio’r cynhadledd ac rydw i’n edrych ymlaen i groesawu 650 cynadleddwr o bum cyfandir i Belfast. Rydw i’n arbennig o falch bod aelodau o’r tim ymchwil o ein prosiect Engage to Change yn darparu gweithdy.

Fe fydd dwy prif ddigwyddiad yn marcio’r cynhadledd: lansiad Cymdeithas Rhyngwladol Cyflogaeth dan Gymorth ar dydd Mercher 14fed Mehefin, a’r Seremoni Terfynol ‘Gwobrau Cyflogaeth i Bawb’ yn yr adeilad eiconig Titanic Experience ar 15fed Mehefin. Yn y ‘Gwobrau Cyflogaeth i Bawb’ olaf yn Zadar, Croatia, yr ennillwyr oedd ELITE SEA. Y tro yma fe fydd yr ennillwyr llwyddiannus yn cael eu dewis o dros 60 o geisiadau ar draws Ewrop.

Fe fydd casgliadau terfynol y cynhadledd yn cynnwys ymrwymiad i weithredu canfyddiadau’r digwyddiad ac i hyrwyddo’n bellach marchnad lafur gwbl gynhwysol. Gallwch ddilyn diweddariadau o’r cynhadledd ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashtag #EmploymentForAll. Byddaf yn adrodd ymhellach yn yr wythnosau i ddod ar ganlyniadau a camau nesaf y digwyddiad cyffrous yma.

Rydw i’n edrych ymlaen at sawl ddiwrnod brysur ond ysbrydoledig a heriol, ac yn gobeithio y bydd cyfle ar ddiwedd pob diwrnod i fwynhau croeso wir Gwyddelig!

Jim Crowe, Cyfarwyddwr, Anabledd Dysgu Cymru, ac Arlywydd, EASPD