Chwilio yn ol llais

Yn dilyn o fy lleoliad gwaith gyda’r Tim Genedlaethol Awtistiaeth, maen nhw wedi fy ngofyn i wneud ffilm am awtistiaeth. Fe ddechreuon ni ffilmio ar 28ain Tachwedd. Mae’r ffilm amdano i fy mhrofiad o fyw gydag awtistiaeth. Gobeithwyd y bydd y ffilm yn cael ei lansio yn ystod Wythnos Genedlaethol Awtistiaeth yn 2020.

Mae’r Tim Awtistiaeth Cenedlaethol wedi fy rhoi mewn cyswllt gyda’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yng Ngwent. Rydym wedi trafod ffyrdd y gallai’r gwasanaeth gymryd rhan yn y prosiect Engage to Change fel cyflogwr prosiect.

Rwy’n gobeithio y bydd unrhyw cyfleoedd gyda’r sefydliad yn y dyfodol yn fy helpu i parhau i ddatblygu fy mhrofiad cyflogaeth pan mae’r prosiect Engage to Change yn dod i ddiwedd.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn wych ar gyfer y prosiect, ac rydyn ni wedi cefnogi llawer o bobl ifanc yng Nghymru gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth mewn i gyflogaeth. Rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd yn dod blwyddyn nesaf. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Hapus!