Blog Gerraint
Mae ein Llysgennad Arweiniol Gerraint yn hybu’r prosiect Engage to Change ar draws Cymru ac yn rheoli tim o lysgenhadon. Draw iddo fo am flas o beth mae wedi bod yn gwneud dros y mis diwethaf…
13 & 14 Tachwedd
Yng nghynhadledd blynyddol Anabledd Dysgu Cymru y flwyddyn yma yn Holiday Inn, Casnewydd, fe wnaeth llysgenhadon y prosiect helpu i hwyluso gweithdai a dosbarthu pamffledi Engage to Change i’r cyhoedd ar y stondin arddangos. Cadeirwyd ail ddiwrnod y gynhadledd gan un o’r llysgenhadon, Jordan Quaite.
20 Tachwedd – Ailwampio’s cyflwyniad
Cwrddais â Tracey yng Nghaerdydd i weithio a sgwrsio ynglŷn â’r cyflwyniad Engage to Change. Pan wnes i a un o’r llysgenhadon, Elsa Jones, ddarparu’r cyflwyniad i mynychwyr Cynhadledd Blynyddol Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn Wrecsam, yr adborth oedd bod yna ddim digon o luniau. Dyma pam wnes i a Tracey gwrdd yng Nghaerdydd.
Edrych ymlaen
Rydw i’n siarad ynglŷn â fy nhaith gydag awtistiaeth yng Nghynhadledd Awtistiaeth: Cyflogaeth y Dyfodol yn Wrecsam ym mis Ionawr. Rydw i wiry n edrych ymlaen i hwn, ac i rwydweithio gyda phobl ifanc a pobl proffesiynol.