Chwilio yn ol llais

Cawsom ddiwrnod gwych wythnos diwethaf yn Dwi Yma, Cynhadledd Blynyddol Anabledd Dysgu Cymru yn Nghanolfan Glasdir, Llanrwst! Edrychodd y gynhadledd ar bwysigrwydd pobl gydag anabledd dysgu yn cael eu gweld, eu clywed, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi ym mhob agwedd o fywyd, a dilynodd Cynhadledd Blynyddol De Cymru Anabledd Dysgu Cymru yr wythnos flaenorol yng Nghasnewydd.

Siaradodd ein Llysgenhadon Engage to Change ynglyn a sut mae’r prosiect wedi rhoi cymorth iddyn nhw i gael eu cynnwys a’u gwerthfawrogi yn y gwaith, wrth gynyddu eu hyder, datblygu eu annibyniaeth, a gwella eu lles. Cyflwynodd Michael Allcock a George Breeze yn y De, ac Elsa Jones a Jonathan Tranter yn y Gogledd. 

Cadeirydd y gynhadledd, Shayna, a arweiniodd ni trwy’r dydd yn Llanrwst, wrth i ni weld sesiwn cwestiwn ac ateb gyda’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan, a cyflwyniadau o Joe Powell ar hunan-eiriolaeth, Prosiect Trawsnewid Gogledd Cymru, Ffrindiau Gigiau, a Katie Whitlow o Senedd Ieuenctid Cymru.

Son arbennig ar gyfer y prosiect perfformio cerddorol Ghostbuskers, a rhoddodd i ni’r cyfle i ganu bach o Spice Girls yn ystod eu gweithy egniol.