Chwilio yn ol llais

Fe fydd y tudalen Hawdd ei Ddeall yma yn disgrifio proses y prosiect Engage to Change.

I ymuno â’r prosiect cysylltwch â ni.

Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Cymru, Gogledd Ceredigion neu Gogledd Powys cysylltwch â Agoriad ar 01248 361392.

Os ydych chi’n byw yn Ne Cymru, De Ceredigion neu De Powys cysylltwch â ELITE ar 01443 226664.

Pan ydych chi’n cysylltu â ni, fe fyddwn ni’n siarad â chi am y prosiect a ffeindio mas os allwch chi gymryd rhan.

Os nad ydych chi’n gallu cymryd rhan, fe fyddwn yn rhoi gwybodaeth i chi am ffurfiau gwahanol i gael help.

Os ydych chi yn gallu cymryd rhan, fe fyddwn ni’n trefnu i gwrdd â chi yn eich cartref.

Fe fydd y cyfarfod yn parhau am tua 1 awr.

Fe fydd popeth rydych yn dweud yn y cyfarfod yn aros yn breifat.

Fe fyddwn yn siarad â chi amdan:

  • Faint ydych chi eisiau gweithio
  • Eich buddiannau
  • Pa mor hyderus ydych chi am deithio

 

  • Cymwysterau fe allwch chi wneud tra rydych yn gweithio
  • Eich rheolaeth dros arian
  • Eich gweithiwr cymdeithasol, os ydych chi’n cael un

 

  • Eich addysg
  • Eich CV
  • Os ydych chi’n edrych am swydd.

Fe fyddwn yn gofyn cwestiynau i chi am eich anghenion cymorth.

Os ydych chi dal eisiau cymryd rhan yn y prosiect, fe fyddwch yn llofnodi ffurflen caniatâd ar ddiwedd y cyfarfod.

Fe fyddwn yn trefnu cyfarfod arall yn eich cartref i helpu ni i ffeindio’r swydd cywir ar eich cyfer.

Fe fydd yr ail cyfarfod yn parhau tua 2 awr.

Fe fyddwn yn gofyn i chi am:

  • Beth ydych chi’n gwneud yn ystod y diwrnod

 

  • Eich hobïau
  • Pethau nad ydych yn hoffi
  • Os allwch chi deithio ar ben eich hun

 

  • Y mathau o gludiant yn eich ardal
  • Swyddi lleol yn eich ardal.

Yna fe fyddwn ni’n gofyn i chi am y fath o le hoffwch chi weithio:

  • Os hoffwch chi wneud llawer o dasgau gwahanol, neu yr un tasgau llawer o weithiau.
  • Pa ddyddiau ac amseroedd hoffwch chi weithio.

 

  • Os hoffwch chi gael llawer o egwyliau neu dim ond rhai egwyliau.

 

  • Os oes well gennych chi fod yn dwym neu’n oer.

 

Fe fyddwn ni’n gofyn i chi:

  • Os oes well gennych chi weithio gyda phobl arall neu gweithio are ben eich hun.
  • Os hoffwch lle gwaith tawel neu swnllyd.

 

  • Os hoffwch chi wisgo ffurfwisg neu na.
  • Os fyddai well gennych chi weithio gyda phobl eich oedran chi neu phobl o unrhyw oedran.

 

  • Pa mor lân hoffwch eich lle gwaith i fod.
  • Os hoffwch chi wneud gwaith corfforol neu na.

 

  • Os hoffwch chi weithio mewn lle gwaith bach neu mawr.

Fe fyddwn ni’n gofyn i chi am eich sgiliau.

Yna fe fyddwn ni’n mynd trwy rhestr o swyddi er mwyn i chi ddewis eich hoff swyddi.

Dyma rhai o’r swyddi fe fyddwn ni’n siarad am:

  • Gofalu am anifeiliaid
  • Gofalu am bobl
  • Glanhau
  • Gwestai a bwyd
  • Siop flodau neu canolfan garddio
  • Trin gwallt
  • Canolfan hamdden
  • Gwaith swyddfa
  • Marsiandwr adeiladwr
  • Golchi ceir
  • Gofalwr neu tasgmon
  • Trosgludiant
  • Garddio
  • Ailgylchu
  • Gweithiwr modurdy
  • Ffatri
  • Siopau

Asesiad fydd rhan olaf y cyfarfod.

Fe fydd yr asesiad yn gwirio beth ydych chi’n gwybod am:

  • Dweud yr amser
  • Arian
  • Defnyddio cyfrifiadur
  • Darllen
  • Ysgrifennu
  • Rhifau
  • Iechyd a diogelwch

 

  • Rheolau’r gwaith.

Fe fyddwn ni hefyd yn gwirio pa mor dda ydych chi gyda’ch dwylo.

Yna fe fyddwn ni yn defnyddio’r holl wybodaeth yma i helpu chi i ffeindio’r swydd cywir.

 

Fe fyddwn ni hefyd yn eich helpu chi i baratoi i gael swydd yn y ffyrdd sy’n dilyn.

  • Ysgrifennu CV
  • Llenwi ceisiau swydd
  • Cyrsiau hyfforddi
  • Gwirfoddoli
  • Profiad gwaith

 

  • Hyfforddiant teithio
  • Ymweliadau cyflogaeth gyda chymorth
  • Cyfweliadau gyda chymorth
  • Treialon gwaith gyda chymorth
  • Cyngor a chanllaw.

 

Pan ydych chi’n barod i ddechrau swydd, fe fyddwn ni’n eich helpu chi i ffeindio’r swydd cywir i chi.

Fe fydd gennych chi hyfforddwr swydd eich hun i gefnogi chi yn y lle gwaith.

Fe fydd eich hyfforddwr gwaith yn eich cefnogi gymaint yr ydych angen yn ystod y lleoliad gwaith.

Fe fydd y lleoliad gwaith yn parhau am 6 i 12 mis.

Ar ddiwedd y lleoliad gwaith rydyn ni’n gobeithio byddwch yn gallu cael swydd parhaol.

Os na, fe allwn ni ddweud wrthoch chi am wasanaethau arall bydd yn gallu helpu chi.

Neu fe allwn ni ddweud wrthoch chi am wirfoddoli yn eich cymuned lleol.