Chwilio yn ol llais

Ar 24ain a 25ain Medi roedden ni yng Nglyn Ebwy a Caerfyrddin gyda’n Sioeau Deithiol Engage to Change, dau ddigwyddiad ysbrydoledig yn dod at ei gilydd cyfranogwyr y prosiect, partneriaid, rhieni a gofalwyr, cyflogwyr, sefydliadau’r trydydd sector, a mwy.

Ni wnaeth glaw cenllif ar y diwrnod cyntaf leddfu effaith clywed gan bobl ifanc, cyflogwyr, llysgenhadon, rhieni a phartneriaid y prosiect am eu profiadau o’r prosiect Engage To Change yn Sefydliad Glyn Ebwy. Bore trannoeth gwnaethom eto groesawu cynulleidfa wych ac ymgysylltiol, y tro hwn yng Nghaerfyrddin yng Nghanolfan Halliwell.

Gobeithiwn fod ein mynychwyr o’r farn bod y digwyddiad yn gyfle gwerthfawr i ddysgu mwy am sut mae Engage To Change yn cefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu a / neu awtistiaeth i mewn i gyflogaeth yn yr ardal leol a ledled Cymru. Roedd yn wych gweld cymaint yn aros ar ôl i sgwrsio â’r tîm yn ystod y sesiwn rwydweithio dros de, cacennau a bisgedi.

Cymerwch gipolwg ar @engage_2_change ar Twitter am drydariadau o’r sioeau sy’n tynnu sylw at ein siaradwyr – o The Entertainer, i rieni cyfranogwyr, i’r llysgenhadon Gerraint a Michael, i’r partneriaid Anabledd Dysgu Cymru, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, ac ELITE.

Er ein bod yn aml yn arddangos cynnydd positif pobl ifanc ar y prosiect, agwedd arall o waith Engage to Change a ddaeth drwodd yn gryf dros y ddau ddiwrnod oedd y gefnogaeth y gallwn ei darparu i gyflogwyr i newid eu harferion a newid eu hagweddau tuag at gyflogi pobl ag anabledd dysgu a / neu awtistiaeth. Pwysleisiodd llawer o’r siaradwyr bwysigrwydd y newid ymddygiad hwn a sut mae cyflogwyr sydd wedi trio gwahanol ffyrdd o wneud pethau wedi medi’r buddion ochr yn ochr â’u gweithwyr.

Diolch i’n holl siaradwyr a mynychwyr dros y ddau ddiwrnod, edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i gyd i barhau i arallgyfeirio’r gweithlu yng Nghymru.