Chwilio yn ol llais

Ymunwch â ni ar 24 Mawrth i wybod mwy am yr ymchwil tu ôl i Engage to Change a’r hyn rydyn ni’n credu sydd eisiau digwydd yng Nghymru i alluogi mwy o bobl gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth i ddod o hyd i a chadw gwaith am dâl.

Fel rhan o nod y prosiect i ddylanwadu’n gadarnhaol ar agweddau a pholisïau am gyflogaeth â chymorth gydag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth, mae ein partneriaid Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cynhyrchu papurau briffio ar bynciau amrywiol ac wedi gwneud sawl argymhelliad i lunwyr polisïau.

Ar 24 Mawrth 2021, bydd Dr Steve Beyer yn amlinellu cynnwys dau bapur briffio diweddaraf ei dîm am y pynciau canlynol:

Caiff cyfranogwyr y cyfle i glywed mwy am yr ymchwil tu ôl i’r papurau briffio a sut gallan nhw gymryd rhan yn ein helpu i gyflawni’r canlyniadau a amlinellwyd yn argymelliadau Dr Beyer.  Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau a gwybod mwy am waith y prosiect.

Anelir y digwyddiad ar-lein hwn at:

  • llunwyr polisïau (lleol a cenedlaethol ill dau);
  • penderfynwyr yn y GIG a sefydliadau sector cyhoeddus eraill;
  • cyflogwyr;
  • comisiynwyr;
  • rhywun â diddordeb mewn cyflogaeth â chymorth, coetsio swyddi ac interniaethiau â chymorth ar gyfer pobl gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth.

Lleoliad:    Ar-lein trwy Microsoft Teams (anfonir cyfarwyddiadau llawn pan archebwch chi)

Dyddiad:   24 Mawrth 2021

Amser:       10:00 – 11:30

Archebwch eich lle am ddim nawr ar wefan Anabledd Dysgu Cymru.