Chwilio yn ol llais

Lauren Thomas, Yngynghorydd Cyflogaeth yn ELITE Supported Employment

Beth yw eich rôl ar Engage to Change?

Fy swydd yw i ymgysylltu gyda cyflogwyr sydd eisiau gweithio gyda ni ar ein rhaglen a ffeindio swyddi ar gyfer ein cleientiaid. Rwy’n gweithio’n agos ac yn datblygu perthynas gyda cyflogwyr ar draws De Cymru.

Beth ydych chi’n mwynhau’r mwyaf am eich swydd?

Rwy’n caru amrywiaeth y rôl. Mae yna gymaint o agweddau i fy rôl sy’n fy ngalluogi i gyfarfod â llawer o wahanol bobl a’i addysgu nhw ar beth rydyn ni’n gwneud ar y prosiect Engage to Change. Mae hi’n wych i fod yn rhan o rhaglen sy’n gallu newid bywydau pobl ac yn galluogi ein cleientiaid i gyflawni ei photensial.

Beth fu eich moment Engage to Change mwyaf falch?

Fy moment mwyaf falch oedd ffeindio swydd i fy nghleient cyntaf y mae hi’n caru. Rwy’n caru clywed sut mae hi’n dod ymlaen yn y rôl hynny a’r cynnydd y mae hi’n gwneud. Dyna beth mae’r swydd yma yn ei olygu!

Beth yw rhai o’ch hoff bethau?

Rwyf wrth fy modd yr awyr agored. Rwy’n caru cerdded a campio a byddaf yn mynd campio ar unrhyw gyfle yn yr haf. Rwy hefyd yn caru fy ngi Pedro, fy ffrind bach sy’n fy nghadw i’n fywiog.