Chwilio yn ol llais

Helo, fy enw i yw Mike Llewellyn. Rwy’n gweithio yn ardaloedd Merthyr Tydfil, Blaenau Gwent, De Powys a cwm Cynon (Rhondda Cynon Taf). Yma rwy’n gweithio fel Hyfforddwr Swydd ochr yn ochr â Michael Stephenson sydd yn Gydlynydd Hyfforddiant Cyflogaeth ar gyfer y prosiect Engage to Change trwy ELITE.

Gyda’n gilydd rydyn ni’n helpu pobl ifanc rhwng yr oedrannau 16-25 gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth i ennill cyflogaeth. Rydyn ni’n cefnogi pobl ifanc trwy gydol eu taith, yn helpu i feithrin hyder, dysgu sgiliau a cwblhau tasgau er mwyn ennill annibyniaeth yn eu gwaith. Gan fod pob person ifanc yn unigolyn rydyn ni’n cymryd yr amser i ddeall beth maen nhw angen a helpu nhw i cyflawni eu nod o sicrhau cyflogaeth.

Mae fy niwrnodau yn amrywiol iawn, oherwydd rydw i’n cwrdd gymaint o bobl ifanc wych a does yna byth eiliad tawel! Rydw i’n aml yn helpu gydag ymweliadau cartref ac asesiadau galwedigaethol ble rydyn ni’n cwrdd â’r bobl ifanc yn y lle cyntaf ac yn trafod pa fath o waith maen nhw’n edrych am, eu heriau, a’u breuddwydion. Rydw i hefyd yn helpu i baratoi CV, ymgymryd â chyfrifiad “gwell yn y gwaith”, ac yn y blaen. Efallai y bydd angen i mi gymryd amser i nodi sgiliau a chryfderau’r person ifanc ac edrych ar sgiliau cyfweliad a chwilio am swydd. Unwaith y bydd y rhain wedi’u sefydlu ac mae’r person ifanc yn cael eu cyfateb i swydd yn seiliedig ar y cyfnod asesu, mae lleoliad gwaith yn cael eu trefnu. Cwblheir ffurflenni i wneud yn siwr bod gan y gweithle’r gwaith papur cywir i ddarparu ar gyfer y person dan sylw,  Forms are completed to make sure the workplace has the correct paperwork in place to accommodate the person concerned, trefnir gwisgoedd Iechyd a Diogelwch os oes angen, ac mae hyfforddiant swydd un-i-un yn cymryd lle. Os mae’r person angen hyfforddiant teithio mae hyn hefyd yn cael eu cynllunio gan yr hyfforddwr swydd, y bydd yn helpu trwy cofnodi amseroedd bws, prisiau, a ffyrdd y mae’n rhaid eu croesi, i wneud yn siwr bod y person yn cyrraedd adref ac i’r gwaith yn ddiogel.

Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ochr yn ochr â person ifanc mewn ffatri yn Rhymni. Mae fy niwrnod fel hyfforddwr swydd yn cynnwys paratoi fy hun ar gyfer y gwaith – gan roi ar esgidiau diogelwch, fest gwelededd uchel, a hen ddillad, gan allwch chi fod yn fudr wrth weithio yn y ffatri. Weithiau mae hi’n oer felly mae angen hefyd lapio i fyny yn gynnes. Rwy’n cymryd cinio,  I take a packed lunch, potel o ddŵr, ac yn hollbwysig, Pecyn Swydd y person. Mae Pecyn Swydd yn cynnwys llawer o wybodaeth fel enw’r person, eu gweithle, manylion cysylltu, ffurflenni iechyd a diogelwch, dadansoddiad tasg (rhestr o dasgau mae’n rhaid i’r person gwneud yn y gwaith), ac unrhyw ffurflenni perthnasol arall sy’n ymwneud â’r lleoliad gwaith.

Unwaith rwy’n teithio i’r ffatri rwy’n cwrdd â’r person y tu allan ac rydyn ni’n mynd mewn gyda’n gilydd, yn clocio mewn ar y peiriant. Maen nhw’n rhoi eu gwisg gwaith arnynt ac rydyn ni’n edrych am y goruchwyliwr sy’n diweddaru ni ynglŷn â unrhyw gwybodaeth perthnasol. Yna byddwn yn mynd ymlaen i’n hardal waith. Fy swydd i yn y lle cyntaf yw i hyfforddi’r person i gwblhau tasgau swydd gan ddefnyddio’r Dadansoddiad Tasg, ac yna camu’n ôl yn raddol ac arsylwi’r person i wneud yn siwr eu fod nhw’n gwneud eu swydd yn gywir ac i safon dderbyniol. Os mae angen cymorth ar y person rydw i’n camu mewn a helpu, ond os mae popeth yn iawn rwy’n gwylio ac yn gwneud nodiadau yn fy mhen ar gyfer nôl yn y swyddfa yn hwyrach. Rwy’n gwneud yn siwr bod y person yn codi’n gywir gan ddefnyddio technegau trin â llaw, ac yn gwneud yn siwr bod y person yn defnyddio’r offer cywir ar gyfer y tasg. Rydw i hefyd yn cynorthwyo’r person tra ydynt ar egwyl i weld sut maen nhw’n dod ymlaen yn gymdeithasol gyda cydweithwyr. Os mae angen arnynt arian i dalu am bwyd neu diodydd rwy’n helpu; rydyn ni yna yn mynd nôl i’r gwaith ac yn cyflawni ein dyletswyddau. Ar ôl i’r gwaith orffen rydyn ni’n tynnu bant ein gwisg gwaith ac yn golchi ein dwylo. Rydyn ni’n cael sgwrs gyflym gyda’r goruchwyliwr ynglŷn â sut mae’r person yn gwneud yn y gwaith ac yna’n clocio mas ar y peiriant, yn aros am aelod o’r teulu i gasglu’r person o’r gwaith.

Unwaith y mae hyn i gyd wedi ei cwblhau rwy’n gadael y ffatri i yrru nôl i’r swyddfa. Rwy’n dewis enw’r person o’n system cronfa ddata ac yn cofnodi digwyddiadau’r diwrnod, wrth ffocysu ar beth wnaethon nhw a sut yr aeth. Rydw i’n gwneud hyn yn syth gan ei fod dal yn ffres yn fy meddwl. Mae hyn i gyd yn cael ei gofnodi i gadw llygaid ar cynnydd y person ac i ddiweddaru hyfforddwyr arall. Ar ôl i hyn gael ei cwblhau rwy’n diweddaru system arall sy’n cofnodi fy oriau gwaith. Rwy’n mewnbynnu’r amseroedd teithio i’r ffatri ac oddi yno, a faint o oriau a hyfforddais i’r person ar y diwrnod hynny. Rydw i yna yn agor y pecyn swydd ac yn mynd i’r adran dadansoddiad tasg ble rydw i’n cofnodi sut mae’r person yn gwneud ar bob tasg wedi’i rhifo. Rwy’n cofnodi llythrennau neu symbolau gwahanol yn erbyn pob tasg i adlewyrchu sut mae’r person yn dod ymlaen. Fe fydd hyn yn dangos cynnydd y person ac yn helpu i asesu pa mor hir y bydd yn rhaid i mi hyfforddi neu yn dweud wrthyf os mae yna anhawster gyda tasg arbennig. Os mae yna unrhyw anhawster fy swydd i yw i weithio mas y ffordd gorau i oresgyn yr anhawster. Pan fyddaf yn cwrdd â’r person a’r goruchwyliwr nesaf, byddem yn trafod sut y gallwn symud ymlaen a goresgyn y rhwystrau sy’n cadw’r person rhag cwblhau unrhyw dasg sy’n achosi anhawster, er mwyn helpu’r unigolyn i weithio’n annibynnol.

Rwy’n bwydo gwybodaeth yn ôl i Mike Stephenson ar sut mae’r person wedi gwneud cynnydd. Unwaith maen nhw’n barod ar gyfer cyflogaeth, gyda’r holl ffeithiau a caniatâd y person fe fydd Mike yn ail-ymweld â’r cyflogwr a trafod lleoliad gwaith â thâl gyda nhw. Bydd oriau gwaith a chyflog yn cael eu trafod a trefnir cyfrifiad “gwell i ffwrdd yn y gwaith” i wneud yn siwr ni fydd y person yn waeth i ffwrdd. Anfonir ffurflenni gwaith a ganiateir i’r asiantaeth fudd-daliadau perthnasol, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw DLA neu DPP y gallent fod yn ei dderbyn. Ar ôl y cytunir a chwblhawyd hyn i gyd, mae’r person yn dechrau eu lleoliad gwaith. Yna rwy’n tynnu’n ôl yn raddol tan bod y person yn gweithio’r annibynnol ac yn hapus gyda’u tasgau. Gyda cytundeb o’r cyflogwr, y person ifanc, a ni ein hunain, rwy’n tynnu’n ôl o’r gweithle, wrth wneud galwadau ffôn wythnosol i misol neu ymweld â nhw.