Chwilio yn ol llais

Mae mis Hydref wedi bod yn fis prysurach i mi, ac rwyf wedi mwynhau hynny’n fawr. Ar 7 Hydref, roeddwn i’n rhan o Barti Penblwydd diwrnod cyfan Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, yn cefnogi unrhyw aelodau oedd angen fy nghefnogaeth a chynnal fy Hootenanny gyda’r nos.  Roedd hyn yn llwyddiant ysgubol ac aeth ymlaen o 7.30pm tan yr oriau mân.

Ar 15 Hydref cynhaliodd Growing Space, elusen i bobl â heriau iechyd meddwl ac anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, ddigwyddiad cyflogaeth rhithwir o’r enw ‘Be Bold, Be Brave’.  Nod y digwyddiad hwn oedd codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd cyflogaeth i’r rhai ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth a chynrychioli’r prosiect Engage to Change ac fe wnes i gyfarfod cryn dipyn o bobl ifanc yn y digwyddiad.

Y diwrnod canlynol cefais gyfarfod ag Anabledd Dysgu Cymru i gynllunio un o’r gweithdai ar gyfer eu Cynhadledd Flynyddol o’r enw ‘Pawb’ ym mis Tachwedd.  Cynhelir eu cynhadledd dros bythefnos (9 – 20 Tachwedd) ac mae ganddynt 25 o sesiynau ar-lein rhad ac am ddim, yn amrywio o wneud ffilmiau i sesiwn gan Lywodraeth Cymru ar oresgyn unigrwydd a theimlo’n ynysig – rhywbeth i bawb! Rwy’n siarad yn y sesiwn agoriadol ar unigrwydd a theimlo’n ynysig ar 9 Tachwedd ac yn edrych ymlaen yn fawr ato.

Ar 11 Tachwedd byddaf hefyd yn cyd-hwyluso gweithdy Engage to Change yn y gynhadledd ochr yn ochr â Sam Williams, y Swyddog Cyfathrebu ac Angela Kenvyn, Rheolwr y Prosiect.

Rwyf hefyd yn cymryd rhan ym more coffi’r prosiect Rhwydweithiau Cymdeithasol a byddaf yn rhoi adborth ar yr holl ddigwyddiadau hyn ym mlog y mis nesaf.

Rwy’n dal i gynnal Awr Hwyl Gerraint ar brynhawniau Mawrth, ar ôl toriad byr, ac rwyf wedi bod yn edrych ar roi rhywfaint o ddeunydd newydd at ei gilydd ar gyfer sesiynau’r dyfodol hefyd.