Pobl ifanc
Ydych chi'n berson ifanc gyda diddordeb yn y prosiect?
Mae prosiect Engage to Change yn gweithio ledled Cymru ac wed cefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed sydd ag anhawster dysgu, anabledd dysgu a/neu awtistiaeth i gyflawni eu potensial llawn.
Gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, mae Engage to Change wedi gweithio’n agos gyda phobl ifanc, eu rhieni/gofalwyr a chyflogwyr i wneud y canlynol:
Mae Anabledd Dysgu Cymru a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) ym Mhrifysgol Caerdydd, ar y cyd ag ELITE Supported Employment, yn falch o gyhoeddi bod cyllid ychwanegol wedi’i sicrhau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru. Dros yr 18 mis nesaf, bydd y cyllid hwn yn galluogi i Ddylanwadu a Hysbysu Engage to Change ac i fwrw ymlaen â pholisi, ymchwil, a gwaith etifeddiaeth y prosiect Engage to Change.
Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, DWP, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, colegau, asiantaethau cyflogaeth â chymorth a sefydliadau eraill gyda’r nod o sicrhau bod cyflogaeth â chymorth, sy’n cynnwys cymorth hyfforddwr swydd arbenigol, yn cael ei hariannu ac ar gael ledled Cymru.
Llwyddodd y prosiect Engage to Change i ddarparu cymorth cyflogaeth i 1,070 o bobl ifanc ag anhawster dysgu, anabledd dysgu a/neu awtistiaeth dros gyfnod o 7 mlynedd a ddaeth i ben ar 31 Mai 2023. Nid yw’r prosiect bellach yn derbyn cyfeiriadau.
Mae’r prosiect hwn yn bosibl oherwydd arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.