Chwilio yn ol llais

Yn ddiweddar mae partner Engage to Change, ELITE Supported Employment, wedi cyflwyno’r ‘clwb swyddi’ yn ne Cymru, cyfle ar gyfer cyfranogwyr y prosiect sydd ddim mewn gwaith ar hyn o bryd i gael cyswllt gyda’n cynghorwyr cyflogaeth a paratoi ar gyfer gwaith.

“Yn bendant mae wedi fy helpu i feddwl am beth ydw i eisiau gwneud,” meddai Harri, 24, o Gaerdydd. “Rwy wedi bod yn mwynhau’r sesiynau yma ac mae pethau’n mynd yn dda. Rwy’n edrych ymlaen at gael mwy o annibyniaeth a sgiliau pan rydw i’n dechrau gweithio.”

Mae Harri wedi bod yn mynychu’r clwb swyddi ym Mhontypridd am gwpl o fisoedd, yn elwa o sesiynau un-i-un rheolaidd gyda cynghorwr cyflogaeth Sian Blowers o ELITE Supported Employment wrth iddo weithio tuag at ymweliadau â’r gweithle a treialon gwaith yn yr wythnosau sydd i ddod. Yn ei sesiynau gyda Sian, maen nhw wedi gweithio trwy ei diddordebau, ei cymwysterau, a’i profiad wrth i Harri ddatblygu ei syniadau ynglyn â’r hyn yr hoffai ei wneud yn y dyfodol. Mae clwb swyddi hefyd yn cwmpasu adeiladu CV, hyfforddiant cyfweliad, hyfforddiant teithio, a cymorth i chwilio am swyddi. Ar prosiect prysur gyda galw mawr, mae’n cadw pobl ifanc i ymgysylltu a paratoi ar gyfer y gweithle yn hytrach nag ar restr aros.

Mae Harri’n chwarae’r cornet, y piano, ac mae ganddo diddordeb mewn nifer o offerynnau eraill. Astudiodd cerddoriaeth yn y coleg, ac mae ei diddordebau a’i profiad yn meddwl ei fod yn awyddus i weithio mewn lleoliad cerddorol. Mae Sian wedi bod yn cefnogi Harri i edrych mewn i’r cyfleoedd all fod ar gael iddo yng Nghanolfan y Mileniwm, Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, a’r Globe, ymysg lleoliadau arall o ddiddordeb.

Mae Sian Blowers yn credu bod cyfarfodydd un-i-un y clwb swyddi yn cam gyntaf buddiol mewn i waith ar gyfer bobl ifanc Engage to Change gan ei fod nhw’n digwydd y tu allan i’r cartref ac yn gweithredu fel ffordd i fagu hyder cyfranogwyr cyn dechrau cyflogaeth. Yn yr un modd â phob agwedd arall ar y prosiect Engage to Change, mae’r clwb swyddi yn hyblyg, yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi’i deilwra i anghenion unigol – amlder a hyd y sesiynau, faint o waith sydd ei angen, a’r math o gefnogaeth sydd ei hangen. Mae Sian a’r cynghorwyr cyflogaeth arall sy’n rhedeg y clybiau swyddi yn creu cynllun gweithredu unigol i’w ddilyn gan bob cyfranogwr.

Mae clwb swyddi yn rhoi Harri a cyfranogwyr Engage to Change arall y lle, yr amser, a’r gefnogaeth i archwilio eu hopsiynau a sicrhau pan fyddant yn cael eu paru â lleoliad gwaith, mai hwn yw’r un iawn ar eu cyfer nhw. Gyda help y clwb swyddi, maent yn barod am heriau posibl fel ceisiadau swydd, cyfweliadau, a theithio i’r gweithle. Mae clybiau swyddi yn rhedeg mewn lleoliadau ledled De Cymru fel Pontypridd, Caerdydd, a Mynwy yn wythnosol, gyda phobl ifanc yn mynychu trwy gydol y dydd ar gyfer apwyntiadau bob awr gyda chynghorwyr cyflogaeth.