Chwilio yn ol llais

Enw: Jacob Meighan

Sut ydych chi’n teimlo am eich amser ar y rhaglen Engage to Change DFN Project SEARCH?

Rydw i’n teimlo bod fy amser ar Project SEARCH wedi bod yn dda iawn. Roedd yna uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ond ar y cyfan, amser da.

Pa interniaethau ydych chi wedi gwneud ers i chi ddechrau Engage to Change DFN Project SEARCH?

Roedd fy interniaeth cyntaf yn yr adran Rhaglenni Iaith Saesneg ar llawr cyntaf Tŷ’r Deri. Roedd fy ail interniaeth yn yr Adran Ffiseg. Roedd fy trydydd interniaeth yn yr adeilad Haydn Ellis.

Beth oedd eich hoff interniaeth a pham?

Rydw i’n teimlo mai’r trydydd interniaeth yw fy hoff un, yn yr adeilad Haydn Ellis yn mewnbynnu data. Hwn yw fy hoff interniaeth oherwydd wnes i fwynhau’r gwaith wnes i wneud yna a ddes i ymlaen yn dda gyda phawb roeddwn i’n gweithio gyda.

Disgrifiwch rhai o’r tasgau wnaethoch chi yn ystod y flwyddyn.

Yn fy trydydd lleoliad gwaith rydw i wedi bod yn edrych ar sawl ffurflen gwahanol a mewnbynnu’r gwybodaeth ar fersiwn tabled. Rydw i hefyd wedi helpu llawer yn y labordai, yn printio labeli cod bar.

Sut mae hi wedi helpu chi i fod ar Engage to Change DFN Project SEARCH a beth ydych chi wedi dysgu yn ystod y flwyddyn?

Pan ddechreuais i’n gyntaf doeddwn i ddim yn siwr pa swydd roeddwn i eisiau gwneud, ond nawr ar ôl fy tair interniaeth rydw i’n gwybod baswn i’n hoffi cael swydd yn mewnbynnu data.

Sut mae Lily (hyfforddwr swydd), Kerri a Bev (hyfforddwyr y coleg) wedi helpu chi yn ystod y flwyddyn? Pa fath o gymorth ydych chi wedi derbyn ohonynt?

Maen nhw wedi helpu fi llawer y flwyddyn yma. Maen nhw wastad wedi helpu fi os oedd yna rhywbeth doeddwn i ddim yn deall ac wrth ddysgu tasgau newydd yn fy interniaethau.

Pa fath o swyddi ydych chi’n gwneud cais amdano ac a ydych chi wedi bod yn llwyddiannus eto?

Rydw i wedi ffeindio hi’n anodd iawn i edrych am a gwneud cais am swyddi ond mae Kerri a Lily wedi bod yn helpu fi i oresgyn hyn. Rydw i wedi bod yn llwyddiannus ac mae gen i nawr swydd yn gweithio gyda’r Ganolfan Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl fel cynorthwy-ydd ymchwil.

Nawr bod Engage to Change DFN Project SEARCH yn dod i ddiwedd, beth fyddwch chi’n hoffi gwneud, neu’n cynllunio gwneud, yn y dyfodol?

Hoffwn weld am faint allai gadw’r swydd yma.