Chwilio yn ol llais

Llongyfarchiadau i’n tîm Engage to Change DFN Project SEARCH ym Mhrifysgol Caerdydd a ennillodd yn ddiweddar y Wobr Busnes a Partner yn ystod Noson Gwobrau Blynyddol Coleg Caerdydd a’r Fro! Roedd hyn yn lwyddiant rhyfeddol gan ystyried y cystadleuaeth gref a enwebwyd wrth ochr y prosiect, ac unwaith eto yn dyst i gwaith partner effeithiol y prosiect a gwaith caled pawb sy’n gysylltiedig i wneud ein blwyddyn cyntaf mor llwyddiannus.

Llongyfarchiadau hefyd i Andrew Horley, y raddedig DFN Project SEARCH cyntaf yng Nghymru i ennill cyflogaeth. Ennillodd Andrew y Wobr Astudiaethau Sylfaenol yn ystod y Noson Wobrau, cydnabyddiaeth o’i gwaith ei hun a’r cynnydd nodedig mae wedi gwneud yn nhermau sgiliau, profiad a hyder yn ystod ei amser ar y rhaglen. Da iawn Andrew!

Caiff DFN Project SEARCH yng Ngaerdydd ei gyllido trwy’r prosiect Engage to Change ac mae’n gydweithrediad rhwng y cyflogwr Prifysgol Caerdydd, sefydliad addysgiadol Coleg Caerdydd a’r Fro, Asiantaeth Cyflogaeth â Chymorth ELITE Supported Employment, ac Anabledd Dysgu Cymru.