Chwilio yn ol llais

Yr wythnos yma, rydyn ni’n troi’r goleuni ar rhai o aelodau mwyaf hanfodol ein tîm Engage to Change enfawr. Cyfarfodwch Annie, Gillian, a Michael, hyfforddwyr swydd o ELITE Supported Employment, sy’n rhoi cymorth i bobl ifanc yn ei lleoliadau gwaith i ddysgu tasgau newydd a datblygu ei sgiliau.

Annie Walker, Hyfforddwr Swydd

Beth yw eich rôl ar Engage to Change?

Fy rôl ar Engage to Change yw i gynnig cymorth un-i-un yn y gweithle. Gall hyn gynnwys unrhywbeth o hyfforddiant teithio i’r gwaith neu rhyngweithio cymdeithasol.

Beth ydych chi’n mwynhau’r mwyaf am eich swydd?

Y rhan fwyaf pleserus o fy swydd yw gweld pobl ifanc yn llwyddo yn y gweithle trwy’r cymorth mae ELITE wedi cynnig. Mae gweld cleient yn mynd o fod yn swil iawn i gyfarch cwsmeriaid a’i helpu nhw gydag ymholiadau yn rhoi boddhad mawr i mi.

Beth fu eich moment Engage to Change mwyaf falch?

Daw fy moment Engage to Change mwyaf falch o un o’n cleientiaid. Mae’r cleient yma yn swil ac yn nerfus iawn, yn ystod ei treial gwaith roedden nhw’n pryderu am ba more dda oedden nhw’n gwneud. Ar ôl y treial gwaith, mae cyfle swydd wedi’i cyflogi wedi cael ei sefydlu am fwy o oriau, yn profi sut mae’r cleient wedi dod yn rhan amhrisiadwy o’r tim.

Beth yw rhai o’ch hoff bethau?

Tu allan i’r gwaith rydw i’n caru mynd a fy nghi bach Lola ar anturiaethau.

Gillian Rees, Hyfforddwr Swydd

Beth yw eich rôl ar Engage to Change?

Hyfforddwr Swydd yn helpu i hyfforddi pobl ifanc mewn i gyflogaeth.

Beth ydych chi’n mwynhau’r mwyaf am eich swydd?

Cyfarfod â’r cleientiaid a dod i’w hadnabod nhw!

Hyfforddi nhw i ddysgu swydd newydd a gwylio nhw’n tyfu yn y rôl, yn ennill hyder.

Helpu pobl ifanc datblygu neu gwella ei sgiliau cymdeithasol a’i annibyniaeth.

Beth fu eich moment Engage to Change mwyaf falch?

Ar ôl hyfforddi un o fy nghleientiaid, i’w weld nhw’n teithio i’r gwaith yn annibynnol ar y bws ac hefyd yn gwneud swydd cynhyrchiol iawn mewn amgylchedd prysur. Mi oedden nhw yn flaenorol yn cael ffobia am trin arian a trafnidiaeth cyhoeddus.

Beth yw rhai o’ch hoff bethau?

Coginio ac ymarfer ryseitiau newydd ar fy mhartner.

Ymweld a cerdded ar hyd traethau gwych Gŵyr.

Michael Llewellyn, Hyfforddwr Swydd

Beth yw eich rôl ar Engage to Change?

Ar y prosiect Engage to Change Project fel hyfforddwr swydd rydw i’n gweithio un-i-un gyda cleientiaid, yn helpu i ddysgu tasgau a datblygu sgiliau newydd mewn cyflogaeth. Gallaf fod yn hyfforddi swydd mewn unrhyw ddisgyblaeth neu sgil ac fy nod yw i helpu bobl ifanc i ennill cyflogaeth ac i fod yn hyderus a hapus yn ei bywyd gweithio.

Beth ydych chi’n mwynhau’r mwyaf am eich swydd?

Cyfarfod â gymaint o bobl wahanol, gweithio ar y cyd gyda nhw a’i helpu i fod yn annibynnol.

Beth fu eich moment Engage to Change mwyaf falch?

Mae pob eiliad yn fy ngwneud i’n falch i weithio ochr yn ochr gyda cleientiaid a cydweithwyr.

Beth yw rhai o’ch hoff bethau?

Rydw i’n mwynhau bod gyda fy nheulu a ffrindiau. Rydw i hefyd yn mwynhau snwcer, darllen, cerdded a hanes.