Chwilio yn ol llais

10fed Mawrth

Ar y 10fed o Fawrth, gofynnodd rheolwr prosiect Engage to Change, Angela Kenvyn i mi fynychu cyfarfod ar-lein gyda phartneriaid y prosiect i drafod mwy gyda Prif Weithredwr DFN project SEARCH, Claire Cookson, a phartneriaid y prosiect ar y rhaglen internship newydd yn Lloegr a elwir “Internships Work”.

28ain Mawrth

Cyd-gynhyrchwyd ffilm hyfforddi swydd gan Kurtis Marshall o Vale People First a fi gyda’r Ganolfan Genedlaethol Iechyd Meddwl efo Andrea Meek a Dr Elisa Vigna sydd yn ymchwilio ar y prosiect. Roedd y ffilm yn tynnu sylw at bwysigrwydd hyfforddwr swydd ac am ba mor benodol yw’r rôl hon, er enghraifft nid yw’n debyg i weithiwr ieuenctid o gwbl. Portrayodd Kurtis gyfwelydd a minnau oedd y hyfforddwr swydd, ac mae’r ffilm yn cael ei olygu ar hyn o bryd, gobeithio na fydd yn rhy hir felly cadwch golwg allan!

12fed Ebrill

Cyflwynodd Andrea Meek, Angela Kenvyn a minnau’r canfyddiadau o’r prosiect ynglŷn â faint o bobl ifanc yr ydym wedi eu cyflogi drwy Engage to Change, cyflwynwyd y canfyddiadau hyn i Dîm Ymgysylltu a Symud Pobl Ifanc Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dan gadeiryddiaeth John Poyner sydd yn gydlynydd Ymgysylltu a Symud Pobl Ifanc.

19eg Ebrill

Siaradodd Dr Elisa Vigna a fi yn ngwobrau Iechyd y Gweithlu yng Nghymru a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, siaradom am ganfyddiadau’r prosiect, ystadegau a ffigurau a hefyd beth mae’r prosiect wedi cyflawni dros y 7 mlynedd ddiwethaf.

25ain Ebrill

Aeth Zoe Richards, Prif Weithredwr Anabledd Dysgu Cymru, a fi i Grŵp Gwaith Anabledd a Thâl y Llywodraeth Cymru. Mewn grŵp sgwrsio, trafodwyd pwysigrwydd cymorth hyfforddwr swydd a Mynediad at Waith. Clywodd y grŵp sgwrsio arall adborth am y cynllun Hyderus Anabledd.

 

Newyddion cyffrous

Rydym yn gweithio gyda chwmni cynhyrchu i gynhyrchu fideo treftadaeth i hysbysu pobl ifanc, eu teuluoedd a phobl sy’n gweithio gyda nhw am y llwybrau gwahanol i ennill cyflog. Bydd y fideo yn cynnwys fi ac ambell unigolyn sydd wedi ennill cyflog trwy’r prosiect Ymgysylltu i Newid.