Chwilio yn ol llais

Young woman on office phoneMae partneriaid prosiect ‘Engage to Change’ wedi rhoi dull gweithredu mewn grym i alluogi’r prosiect i barhau gan gymryd i ystyriaeth ganllawiau llywodraeth, diogelwch pobl ifainc, eu teuluoedd, staff y prosiect ac amgylchiadau unigol.

Mae Grŵp y Bartneriaeth yn cyfarfod ar-lein yn wythnosol i gynllunio ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod cyfleoedd ar gael ar ôl COVID-19.

Cyfathrebu â rhanddeiliaid a chyfranogwyr y prosiect

Defnyddiwn amrywiaeth o lwyfannau rhithgyfarfodydd, e-bost, apiau a galwadau ffôn i hwyluso gweithgaredd a chynnal cyfathrebu rheolaidd â phartneriaid y prosiect, cydweithwyr o fudiadau eraill, pobl ifainc, teuluoedd a chyflogwyr.

Mae gweithgareddau cyfredol y prosiect yn cynnwys

  • Derbyn datganiadau diddordeb a phrosesu atgyfeiriadau newydd.
  • Gwneud asesiadau a phroffiliau galwedigaethol.
  • Rhoi gwybodaeth i gyfranogwyr a’u teuluoedd i’w galluogi i wneud dewisiadau gwybodus.
  • Cefnogi cyfranogwyr i osod nodau, cwblhau cyrsiau achrededig, datblygu CVau, ymarfer cyfweliadau, chwilio ac ymgeisio am swyddi gwag ayyb os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
  • Rhoi cefnogaeth hyfforddwr swydd i gyfranogwyr mewn bodolaeth sy’n parhau i gael eu cyflogi fel gweithwyr allweddol.
  • Cynnig cefnogaeth a darparu gwybodaeth ar gyfer cyfranogwyr cyfredol a chyfranogwyr o’r gorffennol sydd ar ffyrlo o’u swydd, wedi mynd yn ddi-waith neu sy’n gwarchod eu hunain.
  • Darparu cefnogaeth a hyfforddiant o bell i gyfranogwyr oedd ar ffyrlo ynghynt ar gyfer dychwelyd i’w gwaith. Er enghraifft, sicrhau eu bod yn llawn ddeall unrhyw amodau gwaith newydd y maent yn dychwelyd iddynt a sut i lynu wrth ganllawiau’r llywodraeth.
  • Gwneud asesiadau peryglon ar gyfer cyfranogwyr er mwyn iddynt fedru parhau yn eu gweithle cyfredol neu ar gyfer y rhai hynny sy’n cychwyn gweithio.
  • Darparu cyfrifon budd-daliadau lles a chefnogaeth i wneud cais am fudd-daliadau.
  • Cynnig cefnogaeth ar gyfer llesiant a gweithgareddau ymwybyddiaeth fyfyriol i helpu cyfranogwyr i ymdopi â chadw o’r neilltu a hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol.
  • Ymgysylltu â chyflogwyr newydd a rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i gyflogwyr mewn bodolaeth, er enghraifft, ynghylch staff ar ffyrlo.
  • Gweithio gyda phartneriaid yn ein safleoedd interniaeth â chefnogaeth i gefnogi interniaid, darparu gweithgareddau addas, chwilio am/cael gafael ar swydd ac ymgysylltu â dysgwyr newydd ar gyfer rhaglenni interniaeth y bwriedir eu cychwyn yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Beth arall ydym ni’n ei wneud?

  • Gweithio gyda phobl eraill i ymchwilio i effaith COVID-19 a chasglu profiadau pobl sydd ag anableddau dysgu a chyflyrau’r sbectrwm awtistig.
  • Cynnwys pobl ag anableddau dysgu yn natblygiad holiaduron ymchwilio hawdd eu deall.
  • Sicrhau bod gwybodaeth am COVID-19 ar gael mewn diwyg ddealladwy, er enghraifft hawdd ei deall.
  • Ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol er mwyn dylanwadu ar bolisi a dyfodol cyflogaeth i’r anabl ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys eirioli ar ran interniaethau â chefnogaeth, prentisiaethau cynhwysol, cyflogaeth â chefnogaeth a hyfforddi ar gyfer swyddi er mwyn eu gwneud yn ddarpariaeth genedlaethol, wedi’i hariannu ledled Cymru.
  • Parhau i brisio gwerth gweithgareddau prosiect, llunio a chylchredeg adroddiadau prisio gwerth ac erthyglau rhagbaratoi.

Atgyfeirio rhywun at ‘Engage to Change’ yn ystod argyfwng COVID-19

Rydyn ni’n dal i dderbyn atgyfeiriadau at y prosiect felly cofiwch gysylltu â ni os ydych chi’n berson ifanc sydd â diddordeb mewn ymuno â’r prosiect neu’n riant/gofalwr person ifanc sydd â diddordeb mewn ymuno.

Mae meini prawf cymhwystra ar gyfer y prosiect yn aros yr un.  Mae’n rhaid i bobl ifainc sy’n cael eu hatgyfeirio at ‘Engage to Change’:

  • Fod ag anabledd dysgu a/neu gyflwr y sbectrwm awtistig
  • Bod rhwng 16 a 25 oed
  • Bod â chefnogaeth gan deulu neu rwydwaith cefnogi
  • Bod ag eisiau gweithio
  • Bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant i ddatblygu medrau
  • Un ai beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) neu fod mewn perygl o fod yn NEET.

Er mwyn atgyfeirio person ifanc sy’n byw yng Ngogledd Cymru, gogledd Ceredigion neu ogledd Powys, cysylltwch ag Agoriad Cyf. trwy e-bostio e2c@agoriad.org.uk neu ffonio 01248 361392.

Er mwyn atgyfeirio person ifanc sy’n byw yn Ne Cymru, de Ceredigion neu dde Powys, cysylltwch ag ‘Elite Supported Employment’ trwy e-bostio tmoore@elitesea.co.uk neu ffonio 07943 866 246.

Gallwch lawrlwytho copi llawn o’r datganiad hwn yma.

Gallwch lawrlwytho fersiwn hawdd ei ddeall yma.