Chwilio yn ol llais
Ymatebodd partneriaid Engage to Change i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar newidiadau i Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)

Yn ein hymateb fe wnaethom bwysleisio pwysigrwydd cymorth parhaus wedi’i ganoli ar y person i fyfyrwyr anabl. Gall Addysg Uwch a Phellach fod yn heriol i bobl gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth. Dylid addasu DSA hefyd i sut y gall anghenion cefnogaeth newid dros gyfnod cwrs y myfyriwr. Er enghraifft, gall anghenion cefnogaeth newid pan fo myfyrwyr yn gwneud interniaethau. Gallwch ddarllen ein hymateb llawn yn Saesneg yma (ffeil Microsoft Word).

 

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi casglu ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae’r canlyniadau ar gael ar hafan Llywodraeth Cymru. Mae’r canlyniadau ar gael yn Saesneg, Cymraeg,  Hawdd ei Ddeall Cymraeg a Hawdd ei Ddeall Saesneg