Chwilio yn ol llais

Rwyf wedi siarad o’r blaen am fy ymrwymiad â Grŵp Cynnwys Rhanddeiliaid gwefan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol.  Rwy’n falch o ddweud bod eu gwefan newydd bellach ar waith. Roeddwn yn falch iawn fy mod wedi chwarae rhan yn y gwaith o’i gynllunio. Gallwch wylio fideo a wnes am fy ngwaith ar y wefan yma: https://www.facebook.com/AutismWales/videos/692927618242355/.

Ar 20 Medi fe wnes i a Tracey Drew gyfarfod â’r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol sy’n gwerthuso’r rhaglen Engage to Change.  Fe wnaethom edrych ar holiadur ar gyfer y bobl ifanc ar y prosiect a chynllunio cwestiynau am yr hyn mae pobl ifanc yn credu fydd yn digwydd ar ddiwedd eu lleoliadau. Er enghraifft, a fyddant yn ystyried mynd i’r coleg neu efallai chwilio am waith yn annibynnol ar Engage to Change.  Bydd hyn yn cael ei roi mewn fersiwn Hawdd ei Ddeall a’i anfon at bawb yn fuan.

Cymerais ran mewn sesiwn lles gyda Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ym mis Medi hefyd. Roedd hwn yn gwrs hyfforddi defnyddiol iawn ac fe wnaeth ein helpu i edrych ar sut i reoli ein hiechyd meddwl a dod o hyd i gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.

Rwy’n dal i wneud ‘Awr Hwyl Gerraint’ ar brynhawniau Mawrth am 3pm ar gyfer cyfranogwyr Engage to Change. Rwyf hefyd wedi bod yn ymarfer fy sgiliau technoleg yn barod ar gyfer digwyddiad pen-blwydd Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a’r gynhadledd flynyddol ar 7 Hydref.

Ym mis Hydref byddaf yn mynychu digwyddiad cyflogaeth lle byddaf yn hyrwyddo’r prosiect Engage to Change – byddaf yn gallu dweud mwy wrthych am hynny ym mlog y mis nesaf!