Chwilio yn ol llais

Rydyn ni’n gyffrous iawn i wylio Travis Smith ar ddrama’r BBC The A Word! Ar hyn o bryd mae Travis yn gweithio yn Able Radio trwy Engage to Change, lleoliad gwaith sydd wedi bod yn ei helpu i ddatblygu ei sgiliau wrth iddo weithio tuag at ei uchelgais o actio a chanu am fywoliaeth.

“Nid oes dim arall sy’n bwysig tra fy mod yn actio,” meddai Travis. “Ychydig cyn i mi ei wneud, mae gen i ofn ond, unwaith rydw i’n actio neu’n canu, rwy’n colli fy hun.”

Pob lwc Travis! Rydyn ni’n siwr y byddwn ni’n clywed lot mwy ohonoch yn fuan.

Mae The A Word yn dychwelyd am ei ail gyfres ar 7fed Tachwedd. Darllenwch yr erthygl o’r South Wales Argus yma.