Amdanom ni
Ein Gweledigaeth
Rydyn ni’n anelu at sefydlu etifeddiaeth prosiect lle fydd agweddau a pholisi ar cyflogaeth cefnogol ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth yn cael ei ddylanwadu’n bositif gan yr arferiad da arddangoswyd gan y prosiect. Ein weledigaeth yw o fyd lle mae pobl gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth yn gallu profi canlyniadau lles gwell trwy’r annibyniaeth, statws ariannol, cyfalaf cymdeithasol a chwblhad cynyddol mae gwaith taledig yn cynnig.
Ein cenhadaeth
Mae prosiect Engage to Change yn gweithio ledled Cymru i gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed sydd ag anhawster dysgu, anabledd dysgu a/neu awtistiaeth i gyflawni eu potensial llawn.
Gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, mae Engage to Change yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc, eu rhieni/gofalwyr a chyflogwyr i wneud y canlynol:
- goresgyn rhwystrau i gyflogaeth
- datblygu sgiliau trosglwyddadwy
- cynnig profiad gwaith â thâl
- cynnig cyflogaeth â thâl ac â chymorth
- dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli
- cynnig mynediad i interniaethau â chymorth.