Chwilio yn ol llais

Yr Wythnos Gofalwyr yma rydym yn roi lle blaenllaw i blog gan Mel Jefferson, rhiant y mae ei ferch wedi sicrhau a chynnal swydd cyflogedig parhaol yn Tesco yn dilyn cymorth o’r prosiect Engage to Change. Drosodd i Mel… 

Mae fy merch Anna wedi bod yn derbyn cymorth o’r prosiect Engage to Change am 18 mis trwy ELITE Supported Employment. Rydym wedi gweld eu cefnogaeth yn amhrisiadwy wrth ei helpu i ymgartrefu a parhau i weithio’n effeithiol mewn swydd cyflogedig parhaol.

Mae gan Anna Aspergers ac ar ôl gadael y coleg, treuliodd bedair blynedd yn chwilio am swydd manwerthu. Er gwaethaf lleoliadau gwaith tymor byr wedi’u trefnu gan dri darparwr arall sy’n helpu pobl ag anabledd, ni wnaethant erioed arwain at swydd barhaol. Cryfhaodd y profiad ei CV, parhaodd i wneud cais am bron i 100 o swyddi a mynychodd nifer o gyfweliadau, ond ni fu erioed yn llwyddiannus.

Yna fe ddes o hyd i Engage to Change a sylweddoli bod ei dull yn wahanol, efallai yn fwy dwys o ran llafur ond yn fwy tebygol o gyflawni canlyniadau cynaliadwy yn y tymor hir.

Yn fy marn i, y prif anawsterau ar gyfer oedolion ifanc gydag awtistiaeth yw eu fod nhw dan anfantais oherwydd y broses gyfweld ac unwaith yn y gwaith, yn cei chael hi’n anodd setlo mewn i’r swydd ac integreiddio â chydweithwyr. Mae angen hefyd dealltwriaeth a derbyn rhai o’r ymddygiadau gan cydweithwyr nad ydynt efallai’n gwybod am awtistiaeth. Mae’r cymorth dwys gan hyfforddwyr swydd a ddefnyddiwyd gan ELITE yn sicrhau bod y person ifanc yn cael eu cefnogi gyda’r holl faterion uchod mewn ffordd nad yw sefydliadau arall yn gwneud, yn fy mhrofiad i.

Rwy’n gwybod o drafodaethau gyda rheolwr Anna yn Tesco ei bod nhw hefyd yn gwerthfawrogi’r cymorth yma yn ystod y broses o setlo mewn, ac mae’n annog nhw i ystyried eraill gydag awtistiaeth gan eu fod nawr yn nodi eu cryfderau yn ogystal â’u gwendidau.

Fe fydd yna nifer cynyddol o oedolion ifanc gydag awtistiaeth a fydd angen cymorth fel hyn. Mae llawer o gyllid yn mynd i sefydlu’r diagnosis, ond yr her nesaf yw i roi iddynt y cyfle i arwain bywyd annibynnol a pwrpasol ble’n bosib.

Mae hi’n hyfryd ac yn dod â deigryn i fy llygad.