Chwilio yn ol llais

Ymatebodd Engage to Change i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynllunio trafnidiaeth yng Nghymru. Mae’r ymgynghoriad yn nodi cynlluniau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru am yr 20 mlynedd nesaf. Y pwyntiau allweddol yn ein hymateb ydy:

  • Credwn bod hon yn gyffredinol yn ddogfen bolisi addawol gyda’r potensial o gael effaith cadarnhaol ar fywydau pobl gydag anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth yng Nghymru.
  • Fe fyddai’n dda nodi’n glir y dylai nodau hir dymor y system drafnidiaeth sicrhau ei fod yn hygyrch i bobl a hefyd galluogi cyfranogiad hygyrch ym mhob cylch o fywyd yn cynnwys cyflogaeth, gweithgareddau hamdden ac ymgysylltiad dinesig.
  • Ffordd arall o sicrhau bod y system drafnidiaeth yn gynhwysol i bobl anabl ydy sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynnwys ar bob lefel o waith o fewn Llywodraeth Cymru a systemau trafnidiaeth. Argymhellwn weithrediad cyflogaeth gyda chefnogaeth.
  • Er mwyn sicrhau bod systemau trafnidiaeth yn wirioneddol hygyrch i bobl gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth argymhellwn bod Llywodraeth Cymru yn cynnig hyfforddiant teithio i’r rhai sydd ei angen.
  • Tra ein bod yn cytuno bod pryderon amgylcheddol yn hanfodol bwysig, credwn y gallai Llywodraeth Cymru wneud rhagor i sicrhau nad ydy pobl anabl dan anfantais anghymesur drwy polisïau amgylcheddol.
  • Mae’n siomedig na chafodd yr ymgynghoriad hwn ei hun ei gynnal mewn fformat mwy hygyrch.

Gallwch ddarllen yr ymateb llawn i’r ymgynghoriad yma: : NewTransportWales Response – (yn agor fel PDF). Mae fersiwn Gymraeg o’r ddogfen ar gael dim ond gofyn am hynny.

Am ragor o wybodaeth neu fformatau amgen cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Grace ar

Grace.Krause@LDW.org.uk.