Chwilio yn ol llais

Gwnaeth Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ddal ei ail fforwm gwerthusiad ar gyfer Engage to Change gyda Dr Steve Beyer o Prifysgol Caerdydd ar 3ydd Ebrill yng Nghasnewydd. Trafododd aelodau yr adran ymchwil a gwerthusiad o’r prosiect i rhoi ei farn ar sut y gall wella neu diwygio’r broses o safbwynt pobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth. Siaradon ni am os mae’r tim ymchwil yn gofyn y cwestiynau cywir am atgyfeiriadau, sgiliau, swyddi a canlyniadau, os oedd na unrhywbeth oddent wedi colli, a sut ddylen nhw gyflwyno’r gwybodaeth maent yn ffeindio yn y ffyrdd mwyaf hygyrch. Roedd gan aelodau cyfraniadau gwerthfawr i wneud fe fydd yn cael ei ddefnyddio i wella a teilwra’r broses i gyrraedd ag anghenion pobl.