Chwilio yn ol llais

Enw: Marko Arakas

Sut ydych chi’n teimlo am eich amser ar y rhaglen Engage to Change DFN Project SEARCH?

Rydw i’n teimlo ei fod wedi bod yn llwyddiannus iawn ar Project SEARCH oherwydd rydw i wedi dod yn bell ers i mi ddechrau blwyddyn diwethaf er enghraifft: ateb y ffôn, gwell sgiliau cyfathrebu, llawer mwy o hyder ac mae fy CV wedi ei gwblhau a’i diweddaru.

Pa interniaethau ydych chi wedi gwneud ers i chi ddechrau Engage to Change DFN Project SEARCH?

Roedd fy interniaeth cyntaf yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Crefydd Caerdydd.

Roedd fy ail interniaeth yn y Swyddfa Biowyddoniaeth Israddedig.

Roedd fy trydydd interniaeth yn yr Adran Cyfathrebu a Marchnata yn Nhŷ Friary.

Beth oedd eich hoff interniaeth a pham?

Roedd fy hoff interniaeth yn yr Adran Cyfathrebu a Marchnata oherwydd rydw i wedi cael fy nysgu sut i ddefnyddio ac ateb teleffonau, delio gyda ymholiadau myfyrwyr trwy ebost ac rydw i’n gyfeillgar gyda phawb.

Disgrifiwch rhai o’r tasgau wnaethoch chi yn ystod y flwyddyn.

Roedd rhai o’r tasgau wnes i gwblhau yn ystod fy interniaethau yn cynnwys: delio gyda ymholiadau myfyrwyr trwy ebost, cyflwyno marciau arholiadau’r myfyrwyr, sganio data mewn i gyfrifiadur, ffeilio, ac ateb y teleffon.

Sut mae hi wedi helpu chi i fod ar Engage to Change DFN Project SEARCH a beth ydych chi wedi dysgu yn ystod y flwyddyn?

Trwy bod ar Project SEARCH mae hi wedi helpu fi i ddysgu sgiliau sy’n gysylltiedig â cyflogaeth ac i gael digon o brofia gwaith i gael cyflogaeth â thâl.

Sut mae Lily (hyfforddwr swydd), Kerri a Bev (hyfforddwyr y coleg) wedi helpu chi yn ystod y flwyddyn? Pa fath o gymorth ydych chi wedi derbyn ohonynt?

Mae Lily wedi gweithio efo fi i ysgrifennu a cwblhau fy CV ac hefyd wedi rhoi cymorth i mi yn fy interniaethau gyda tasgau newydd.

Mae Kerri a Bev wedi dysgu fi am cyllidebu arian, arferion gwaith, bwyta’n iach a cyfweliadau swydd.

Pa fath o swyddi ydych chi’n gwneud cais amdano ac a ydych chi wedi bod yn llwyddiannus eto?

Rydw i wedi ymgeisio am swydd rhan-amser yn y Brifysgol fel cynorthwy-ydd gweinyddol.

Nawr bod Engage to Change DFN Project SEARCH yn dod i ddiwedd, beth fyddwch chi’n hoffi gwneud, neu’n cynllunio gwneud, yn y dyfodol?

Hoffwn weithio mewn gweinyddiaeth oherwydd mae hi’n siwtio fi gan fy mod yn medru gweithio ar gyfrifiaduron. Rydw i eisiau cael cyflogaeth fel y gallaf ddechrau talu rhent i fy Mam ac prynu gemau fideo i fy hun.