Chwilio yn ol llais
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth i gyflogwyr yn rhoi cyngor ar sut i ddenu, recriwtio, datblygu a chadw cyflogai anabl yn ogystal â pha gefnogaeth ac adnoddau sydd ar gael i helpu cyflogwyr i greu gweithlu sydd yn gynrychioliadol ac yn agored i bawb.

Cynhyrchwyd adroddiad o’r enw Cymru mwy cyfartal: canllaw ymarferol i gyflogwyr i gyflogi pobl anabl i annog cyflogwyr i logi rhagor o bobl anabl a chreu gweithlu cynhwysol.

Mae’r canllawiau yn seiliedig yn benodol ar y model cymdeithasol o anabledd, yn rhoi cyngor ymarferol ar sut i wneud recriwtio, cyflogi, cadw a datblygu/cynnydd yn hygyrch i bobl anabl. Mae canllaw defnyddiol ar gael hefyd ar ddefnyddio iaith model cymdeithasol a rhestr o adnoddau a chysylltiadau defnfyddiol yn cynnwys en partneriaid prosiect Agoriad Cyf, Cyflogaeth gyda Chefngoaeth ELITE ac Anabledd Dysgu Cymru.

Mae’r canllaw ar gael mewn Cymraeg a Saesneg Hawdd ei Ddeall