Chwilio yn ol llais

Mae partner darpariaeth Engage to Change, ELITE Supported Employment, yn y rownd derfynol ar gyfer Gwobrau Cyflogadwyedd ERSA 2018 yng nghategori Cyflogaeth Ieuenctid, noddwyd gan entitledto.

Nawr yn ei chweched flwyddyn, mae Gwobrau Cyflogadwyedd ERSA yn dathlu arfer da ar draws y sector cymorth cyflogaeth ac yn arddangos y gwaith caled a’r ymroddiad dydd-i-ddydd o’r rhai sy’n gweithio i wella bywydau ceiswyr gwaith, cymunedau a’r gweithlu ehangach.

Ar hyn o bryd mae’r prosiect Engage to Change yn rhedeg ar draws Cymru i gefnogi pobl ifanc o’r oedran 16-25 gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth i fewn i lleoliadau gwaith cyflogedig yn para 6-12 mis. Mae ELITE yn darparu’r prosiect ochr yn ochr â consortiwm sy’n cynnwys Anabledd Dysgu Cymru, Agoriad Cyf, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, a Prifysgol Caerdydd. Ariannir y prosiect gan y Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru trwy’r rhaglen Getting Ahead 2. Daw’r cyllid o arian sydd wedi gorwedd yn segur mewn cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu ar draws y DU am 15 mlynedd neu ragor.

Mae Engage to Change yn anelu i helpu dros 1000 o’r bobl ifanc yma i gyrraedd ei potensial trwy rhoi cymorth iddynt i ennill profiad yn y gweithle a datblygu sgiliau trosglwyddiadwy trwy dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. I wneud hyn rydyn ni’n gweithio gyda 800 o gyflogwyr dros pum mlynedd i gynnig hyfforddiant swydd un-i-un a cymorth cyflogaeth arbeingol i’r bobl ifanc a’r cyflogwyr.

Derbyniodd ERSA bron 150 o geisiadau ar draws 10 categori yn arddangos ehangder y gwaith ynghlwm â cefnogi pobl mewn i gyflogaeth. Barnwyd y ceisiadau gan Ashwin Kumar, Prif Economegydd Sefydliad Joseph Rowntree, Tabitha Jay, Cyfarwyddwr yr Uned Gwaith a Iechyd, Gill Holmes, Uwch-Swyddog DWP, ac ennillydd diwethaf y wobr Cynghorydd y Flwyddyn, Adrian Bailey o Prisoners Abroad.

Diolch i’w le yn y rownd derfynol, fe fydd ELITE yn mynychu seremoni arbennig ar 14fed Mehefin gyda’r Weinidog Cyflogaeth Alok Sharma AS.

Mae’r Rheolwr Gweithrediadau Chris English yn rheoli darpariaeth y prosiect Engage to Change ar gyfer ELITE. Meddai:

“Mae’r prosiect Engage to Change yn galluogi pobl ifanc ar draws Cymru gydag anabledd dysgu, anhawster dysgu, neu awtistiaeth i gael mynediad i gyfleoedd ar gyfer cymorth cyflogaeth. Mae yna alw mawr am brosiect o’r fath yma ac rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni ar rhestr fer y rownd derfynol yn y categori mawreddog yma i gydnabod llwyddiannau’r prosiect ac ymroddiad y staff i’n ceiswyr swydd ni.”

Dywedodd Kirsty McHugh, Prif Swyddog Gweithredol ERSA:

“Mae cyflwyniadau’r wobrau y flwyddyn yma yn arddangos llwyddiannau anhygoel unigolion a sefydliadau ar draws y sector. Mae’r nifer enfawr o geisiadau a dderbyniodd ERSA yn tanlinellu’r angerdd a’r ymrwymiad tuag at cefnogi cyflogadwyedd a trawsnewid bywydau, cymunedau a busnesau. Mae’r wobrau yn dathlu ac yn hyrwyddo’r gorau o’r gwaith sy’n mynd ymlaen ar y rheng flaen pob diwrnod yn y sector ac rydw i’n edrych ymlaen at ddathlu’r llwyddiannau yma yn y seremoni arbennig ar 14fed Mehefin.”